BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Dechrau ffilmio
Mai 5, 2013, 5:10 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , ,

Dwi wedi gwneud diwrnod o ffilmio o’r diwedd! Ddydd Gwener oedd hi, ym Mhenygroes, ac yn ardal Dyffryn Nantlle y bydd 6 rhaglen o’r gyfres nesa o Byw yn yr Ardd, sef y rhaglenni y bydda i a Russell yn eu gwneud. Mi wna i egluro pam mewn blog arall, ond yn y bôn, ceisio perswadio, annog a helpu pobl yr ardal i dyfu eu bwyd eu hunain fyddwn ni.

Mynd o gwmpas y dre yn cnocio drysau i weld pwy fyddai â diddordeb oedden ni. Yn anffodus, chydig iawn o bobl Penygroes oedd adre ar ddydd Gwener … ond mi ddaethon ni o hyd i rai, peidiwch a phoeni!

IMG_2570 Ac os oeddech chi’n pasio drwy Benygroes ddydd Gwener, mae’n bosib y byddwch chi wedi gweld Russ ar feic tair olwyn a finnau’n eistedd yn gweiddi/gwichian/gwingo ar y cefn. Mi rois i gynnig ar bedlo’r beic hefyd, ond iechyd, roedd angen ymarfer. Dydi o’m byd tebyg i feic dwy olwyn a do’n i jest methu gneud i’r blwmin peth droi i’r chwith. Ond mae Russ wedi bod yn ymarfer ac yn mynd rêl boi arno. Chwarae teg, dim ond 3 gêr sydd ar y peth!

Wele lun ohonon ni ar ganol ffilmio – o, ac oedd, roedd gen i fegaffôn/uchelseinydd/ be bynnag dach chi’n eu galw nhw. Gewch chi weld pam pan gaiff y gyfres ei darlledu fis Medi.

IMG_2573
Nefi, dwi newydd sylweddoli mod i wedi pesgi. Bydd raid torri’r carbs eto mwn. Ho hym.
A dyma i chi luniau o ngardd i heddiw:image

image

image

image

image
Yr Honesty wedi tyfu dros nos, rhyw gennin pedr hwyr nad oes gen i syniad pam eu bod nhw gymaint hwyrach na’r lleill, a’r un ola ma – dim clem be di’r enw ond mae’n tyfu o wreiddiau mawr tew, digon hyll, yn cael blodau sydd fel madarch i gychwyn, wedyn yn blodeuo’n fawr ac yn binc a phan ddaw’r dail, mae’r rheiny bron fel riwbob. Rois i gwpwl o ddarnau o’r gwreiddiau i ferched Rehoboth. Difyr fyddai cael gwybod ymhen blwyddyn neu ddwy sut siap sydd arnyn nhw. Mynd i fynd a peth i fy chwaer a fy nith heddiw. Mae gan y nith ddwylo gwyrdd. Ddim yn siwr am y chwaer eto – dyddie cynnar …



Yr ardd ddiwedd Mawrth
Mawrth 27, 2013, 3:34 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , , , , , ,

Dwi’n dal i drio dalllt y ffordd newydd o osod blog yn y bali system newydd ma. Ee. Dwi’n teipio rwan a methu gweld be dwi’n deipio. Beth sydd wedi digwydd?!? Ac wedyn do’n i methu teipio o gwbl. Hm. Ai bod yn sinigaidd ydw i yn amau falle eu bod nhw’n trio gneud i mi uwchraddio – hy talu, er mwyn gwneud y blogio’n haws?

ond mae pethau i’w gweld yn gweithio rwan, heblaw am ddiffyg llythyren fawr ar ddechrau’r frawddeg na … Grr. Iawn, driwn ni lun rwan ta:imageoce, nid hwnna oedd i fod fanna, ond dyna ni. Enillais i hwnna mewn raffl ond dio’m yn ffitio i mewn i unrhyw bot sy gen i. image Dwi’n trio sgwennu mwy ond yn gorfod mynd rownd y byd i neud hynny. Nai chwythu gasket ar y ret yma! Iawn, llun fanna o’r ardd fel mae hi heddiw – dim eira sylwch, mond ar y bryniau. Fel gwanwyn go iawn fan hyn. Ambell wenynen allan hyd yn oed. Iawn, mi fentrai roi llun arall…image

dim clem os weithiodd hynna, ond nai ddal ati i deipio yn y gobaith mai llun o fy mriallu newydd zebra stripes ydi o. Del de? A llonydd gan y malwod hyd yma.image A dyma fwy o mlodau bach newydd i. Bellis os cofia i’n iawn , math o lygad y dydd crand.image Hei! Mae’n gwella ma! Gobeithio mai llun o ddifrod llygod ydi hwn. Nid yn glir, ond y diawlied bach wedi chwalu fy ngwely grug i a gadael darnau cwbl foel.image Ymgais i osod blodau gwanwynol yn y darn gwag, hyll ydi hynna. Chydig o gennin pedr oedd yn diodde yn y wal gafodd ei chwalu yn y fynedfa, am fod angen lliw rwan yn y gwely fydd yn for o anemones nes mlaen. Ew, job ydi cadw’r lliwiau i fynd drwy’r tymhorau. Unrhyw syniadau be arall fedrai ei roi yna? Heb wario ffortiwn? Mae BYYA wedi mynd yn fwy o bres poced na chyflog i ni felly dim dosh, gyfeillion! O, ac os ydw i wedi dallt yn iawn, dim ond fis Medi welwch chi ni eleni. Dim rhaglen garddio dros yr haf. Nid yn 2013 o leia.image A dyma i chi goeden sydd wedi disgyn dros y wal i mewn i ngardd i. Sy’n fatgoffa – angen ffonio’r ffarmwr i adael iddo fo wybod. A gan fod blogio hwn di cymryd oes a dwi di cael llond bol a dim mynedd llwytho mwy o’r lluniau, ta ta am y tro. Blin? Moi?! O, ia, mi fydd Russell yn Llyfrgell Cfon Ebrill 13, 10.30. Mond isio deud hynny o’n i’n lle cynta pan ddechreues i’r blog ma! Felly ewch i wrando arno fo – yn siarad am ieir, garantid …



Mae’r Gwanwyn Wedi Cyrraedd! x 3
Chwefror 17, 2013, 9:11 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , ,

Mae'r Gwanwyn Wedi Cyrraedd!Ail gynnig ydi hwn. Naci, trydydd a bod yn onest. Dwi’m yn gwbod be sy wedi digwydd i WordPress ond mae isio rhoi tro yng ngwddw rhywun! Dwi di treulio ORIAU yn llwytho blwmin lluniau a sgwennu’n goeth a hyfryd, ond does na’m byd i’w weld ar y b•¶∞¢# blog wedyn! Grrr…

Dwi’n gallu copio’r paragraff cynta ma oddi ar Facebook ond dim mwy. Iawn, cyfri i ddeg … trio eto:

Ia, lluniau o’r ardd bore ‘ma. Doedd hi’n hollol wefreiddiol gweld awyr las a haul eto? Iawn, mae na ryw bali malwod neu rywbeth wedi bod yn… cnoi fy lilis gwynion bychain a’r cennin pedr oedd ar fin blodeuoDSC_0084DSC_0076DSC_0082DSC_0077 ond mae na ddigon o liw i’w weld ar flodau a choed eraill.DSC_0081DSC_0078 Oedd yn grêt, achos roedd y gwenyn allan – ieee! Ro’n i wedi bod yn poeni amdanyn nhw. Ar un llaw, ro’n i isio gadael llonydd iddyn nhw dros y gaea, ddim isio’u styrbio na’u hoeri; ar y llaw arall, do’n i’m isio iddyn nhw lwgu. Ro’n i’n gwybod bod 2 o’r 3 cwch yn dal yn fyw am mod i wedi gweld gwenyn yn symud dros y queen excluder/wahanlen pan fues i’n eu bwydo nhw. Ond roedd pethau’n annifyr o dawel a di-symud yn y cwch flin – dyna dwi’n galw’r un lle doth yr haid ddiarth llynedd. Hen bethau pifish. Ar ôl gweld Carys Tractors yn dre y diwrnod o’r blaen, mi ddywedodd y dylwn fynd i’w chrombil ar fyrder. iawn, felly pnawn ma, mi wnes i danio’r mygwr am y tro cynta ers oesoedd a draw a fi at y gwenyn. At yr un flin/farw gynta – a mynd coblyn roedd hi fel ffair yn y fynedfa! Roedden nhw’n hynod fyw. DSC_0086Rwan ta, dwi di bod yn darllen am ddynes sy’n rhyw fath o ‘horse whisperer’ i wenyn a dydi hi byth yn eu mygu nhw, felly wnes i fawr o fygu. A diawch, wyddoch chi be, er i mi fynd drwy bob ffram, roedden nhw’n glen ac annwyl a hyfryd – fel wyn bach. ‘Beth sydd wedi diiigwyyyyydd?’ Yr hen frenhines bifish wedi marw? Wedi sylweddoli ei bod hi mewn lle da? Ei bod hi’n licio fi? Pwy a wyr, ond roedden nhw’n lyfli. Ac roedd y ddwy arall yr un mor dawel a chlen – ac iach a byw a dim sôn am afiechyd nac adennydd cam na dim. Ew, ro’n i wedi mhlesio ac yn hedfan fy hun. Sbiwch llun ( sal) dries i ei gymryd ohonof fy hun wedyn:DSC_0092Gwenu go iawn fanna – nid actio mo hynna! Ro’n i’n flin fel tincar ddoe ond yn hapi byni go iawn ar ôl bod yn trin fy ngwenyn. Dylai doctoriaid ystyried rhoi gwersi trin gwenyn yn lle tabledi i bobl sy’n diodde o’r felan. A tase hi ddim yn nos, mi fyswn i’n mynd nôl at y gwenyn rwan i g^wlio lawr ar ôl i WordPress fy ngyrru’n benwan!

Cofiwch chi, roedd yr haul yn help i godi gwên hefyd doedd? A’r adar yn canu – a nythu fel mae dau ditw tomos las wedi gneud yn y bocs pren etoDSC_0070 Fethais i gael llun call ohonyn nhw. A does na’m robin goch wedi sbio ar y tebot eto. Ro’n i wedi gwirioni efo’r llyffantod hefyd, ond gewch chi hanes rheiny yn y blog nesa ( dim mynedd rwan!) ond dyma un llun bach i aros pryd:tumblr_mi9rsaDA6C1rw9pioo8_250 Ioan Morgan, mab fy ffrind, Luned, gymrodd hwnna. Mwy tro nesa. A dwi’n mynd i gopîo hwn cyn pwyso ‘Cyhoeddi’, achos os ydi o’n diflannu eto mi fydd fy sgrech i’w chlywed yn y Bala …



Chwefror 2012
Chwefror 14, 2012, 1:42 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , ,

Ro’n i jest isio dangos i chi pa mor brydferth ydi fy ardal i o’r byd. Ffrind o Ben Llyn ydi honna yn y pinc, ac roedd hi wedi gwirioni. Mae’r rhan yma o Feirion yn berwi efo llwybrau tawel fel yna, sy’n berffaith ar gyfer beicio. Coblyn o allt i gyrraedd fyny fan’na, cofiwch – ond mae o werth o! Ac oes, mae na ddefaid yn y caeau ond mae Del yn ufudd a ddim yn rhedeg ar eu holau – dim ond beics!

A dyma i chi un o’r coed basion ni. Fel rhywbeth allan o ffilm tydi? Roedd na goedwig gyfan felna tan llynedd – y rhan fwya wedi eu torri rwan. Ond mae’n haws gweld y golygfeydd rwan am wn i.

A dyma i chi Del a fi a meic newydd, lyfli i!

Dwi wedi bod yn gweithio’n galed yn yr ardd hefyd – ond fysech chi byth yn deud. Dyma rai o’r blodau sydd allan: A dyma sut oedd yr unig gennin pedr oedd ar fin blodeuo ar Chwefror yr 2il.

Ond dwi newydd fod yn sbio arno ac mae’n dal yn union yr un fath. Ond mae cennin pedr Gwanas yn eu blodau ers wythnosau! Ond mae na flodyn allan ar y camellia:

Dim ond gobeithio na fydd hi’n rhewi’n gorn eto rwan, neu mi fydd y pinc yn troi’n frown yn syth …

Mae fy saets i’n edrych yn dila iawn. Dwi wedi bod yn ei docio i drio ei achub, ond dwn i’m … gawn ni weld. Sbiwch trist ydi o ar hyn o bryd:

Oes angen tocio mwy arno tybed? Ond dwi’n dal i ddefnyddio’r dail i goginio a dwi’m isio colli’r cwbl!

Yn wahanol i llynedd, mae fy mhatsyn mawr gwyllt i o rug a’r blodau bach piws na ( methu cofio’r enw rwan) yn llawn iawn, ac nid wedi ei droi’n grempog gan lygod bach. Beryg bod y diawlied wedi bod yn rhy brysur yn sglaffio bylbiau blodau eraill … roedd gen i fwy o gennin pedr na hyn, i fod!

Dwi wedi bod yn taenu fy nghyfrinach ( Super dug) fel peth gwirion felly siawns na welai wahaniaeth ymhen rhyw wythnos neu ddwy … croesi bysedd.