BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwobr a gwaith
Mehefin 18, 2013, 8:31 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , , , , , , ,

Meddwl y byswn i’n rhannu llun o griw o bobol neis iawn efo chi:image
Cymysgedd ydyn nhw o aelodau o bwyllgor Cronfa Goffa T llew Jones, trefnydd cystadleuaeth i gael mwy o lyfrau i blant 8-12, ac un o’r beirniaid. Pobol annwyl, clen a hynod glyfar, achos fi enillodd! Sgwennu pennod gyntaf nofel ac amlinelliad o weddill y llyfr oedd y dasg, a hynny dan ffug enw. Felly dim ffafriaeth! Ond myn coblyn, erbyn dallt, roedd y ddynes dal, smart na efo’r blodyn a’i gwr yn rieni i Rhun, cariad fy ffrind Cheryl – yr un fu’n gofalu am y gwaith sain pan wnes i’r ddwy raglen yn Nigeria ‘Gwanas i Gbara.’ Dwi’n son amdani yn fy hunangofiant.
Ydi, mae’r byd ma’n fach.
Beth bynnag, mi rydw i’n hynod hynod hapus mod i wedi fy newis. Braf ydi ennill rhywbeth – dwi’m wedi ennill unrhyw beth ers blynyddoedd…( ciw feiolins).
Nes i ddathlu? Wel do, es i heibio ffrind sy’n byw yn Chwilog – lle ges i’r wobr, paned efo hi a rhoi planhigion o’r pwll iddi am eu bod yn mygu fy mhwll i ac mae ganddi hi anferth o lyn sydd angen planhigion bach del. Dim lluniau sori – tro nesa. Mi gafodd dy gwydr yn anrheg Dolig gan ei gwr, a nefi, am un da! Os fydd BYYA yn mynd yn ol i’r hen drefn mi fysa’n dda ei ddangos i chi. A’r patsh llysiau. Newydd ddechrau garddio mae hi, ond ew, bysedd gwyrddion! A ges i blanhigion ganddi – blodau’r haul coch. Ia, coch. Gewch chi lun o’r rheiny pan dyfan nhw. A rhyw flodau bach melyn ar gyfer rockery. Wedi bod yn eu plannu bore ma.
O, ac i ddathlu mwy es i heibio siop fawr yn Port a phrynu king prawns bendigedig i mi fy hun. Iym.
Ond heddiw, nol at the day job, sgwennu a sgwennu – a gofalu am y gwenyn. Dyma un o’r tasgau: gwneud mwy o fframiau i ddal y mel.image Ond fel y gwelwch chi o siap yr hoelen na, dwi’m yn rhy dda am y job.image
Dwi’n defnyddio’r teclyn glas na sy’n gwthio hoelion i mewn i’r pren dach chi’n gweld. Haws na morthwl i fod…image Mae’n rhaid eu gosod jest lle mae’r weiars na’n cyfarfod mewn V o dan y pren tenau na – i gadw’r ffram rhag chwalu. Haws deud na gneud.
Ac weithiau, os nad ydach chi’n canolbwyntio, dach chi’n rhoi hoelen yn y teclyn heb gofio bod un ynddo’n barod ac wedyn mae hyn yn digwydd.image
O wel, dwi’n gwella.
Bu Carys acw yn fy helpu i wahanu a chael trefn ar y cychodimage
A dyma hi yn Nolgamedd, lle mae fy rhieni’n byw. Mae brenhines y cwch flin yn fanna rwan a’r hanner cwch sydd ar ol yn prysur fagu brenhines newydd. Ac wyddoch chi be, o’u gwahanu felna, mae’r 2 gwch yn llawer cleniach! Hyd yma o leia …


2 Sylw so far
Rho sylw

Llongyfarchiadau mawr ar gael y wobr.

Sylw gan Wilias

Am newyddion da felly llongfyrchiadau mawr gen i hefyd. Haeddedig iawn!!

Sylw gan Ann Jones




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: