BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


A bu llwyddiant!
Ebrill 9, 2013, 3:25 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau:

A bu llwyddiant!

Daeth y merched ( ac un dyn yn eu mysg) a chafwyd pnawn bach hyfryd yn eu harwain o gwmpas yr ardd. Roedden nhw wrth eu boddau!
A rwan dwi isio llwytho llun arall ond does na’m opsiwn i mi wneud hynny – dim ond newid hwn am un arall. Grrr …Dyma ni, ar ôl mynd rownd y byd:

DSC_0068
Del wedi cael ffrind newydd. Roedd hi wedi gwirioni efo’r holl sylw.

DSC_0069
A’r criw i gyd. Doedd y diffyg blodau ddim wedi eu siomi – does gen i ddigon o bethau eraill i’w gweld yma? A llwythi o adar wrth gwrs. Diaw … ella wnai hyn yn amlach rwan. Ond do’n i ddim yn gwneud te i neb – mynd i dre i Gaffi TH oedden nhw wedyn – cacenni hyfryd yn fanno. Dwi’n gneud cacenni hyfryd hefyd wrth gwrs – ond dwi’n rhy brysur ar hyn o bryd! Ond dyma lun i chi o gacen wirioneddol flasus wnes i wythnos dwytha. Iym. Drapia, methu llwytho’r llun hwnnw. AAAA! Ers pryd mae technoleg yn gneud bywyd yn haws?!


2 o Sylwadau so far
Gadael sylw

Noswaith dda Bethan,
Braf iawn gweld cymaint o’n ffrindia o Dre Taliesin yn dy ardd di. Bydd yn rhaid i ni drefnu iddyn nhw ymweld â’r swyddfa yma fesul un i gael cip ar y lluniau – does dim lot o’r chwiorydd sydd â chysylltiad â’r we! ‘Dan ni’n hoffi dy flog yn fawr iawn gyda llaw.
Cofion cynnes
Martin a Siân

Sylw gan Martin a Siân

Diolch am y sylw – falch eich bod yn mwynhau! Mi fyddwn i wedi sgwennu mwy tase bali WordPress ddim yn chwarae silibygyrs yn ddiweddar … fy ngyrru’n benwan!

Sylw gan bethangwanas




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: