BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Mac Newydd
Mawrth 21, 2013, 5:09 pm
Filed under: Heb Gategori

Photo on 21-03-2013 at 17.05O, y trafferthion o gadw blog! Gan fod WordPress yn mynnu mod i angen uwchraddio fy nghyfrifiadur, a’r cyfrifiadur yn rhy hen i’w uwchraddio, dwi wedi prynu Mac newydd – ers misoedd. Dyma fi’n sgwennu arno rwan: drapia – ro’n i’n meddwl bod na opsiwn i gynnwys llun rwan ( fel oedd na ar yr hen fersiwn o WordPress) a welai run rwan. Grrr.

Ta waeth. mi wnes i ei brynu ar frys, a methu cofio’r cyfrinair am oes. Wedi llwyddo i fynd mewn iddo ddoe – a dwi’n sylweddoli nad oes gen i syniad mwnci lle rois i’r CD Windows ayyb. Argol, mae isio gras. Ydw, dwi’n gallu mynd ar y we yn llawer cynt ond fedrai’m sgwennu! A dwi’n dal ddim yn dallt WordPress ar ei newydd wedd!

Iawn, wedi gorfod rhoi’r llun mewn post ar wahan. Isio gras. Ond diaw – newydd lwyddo i’w roi ar dop hwn rwan. Fffff.

Beth bynnag, pan fyddai wedi dallt hwn, ac wedi do yn ôl o Wyl Llen Plant Caerdydd. gewch chi flog call.

Ond am y tro, stwffio fo!


1 Sylw so far
Gadael sylw

Dwi’n siwr y byddi di wrth dy fodd efo’r Mac ar ôl arfer!

Sylw gan sgentilyfrimi




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: