BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Bali poen!
Ionawr 28, 2013, 11:37 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , , , , , , , ,

images-2 Naci, nid y fi ydi honna. Ond dwi wedi gwneud yr un peth â hi. A hwn:images-4 Ond mae o wedi brifo go iawn. Actio mae’r llall de? Actio’n dda, cofiwch. Mae ei hwyneb hi’n gwneud i mi wingo. Wedi tynnu llinyn y gar maen nhw, neu’r hamstring. A dyma be mae hwnnw’n edrych fel:imagesO dan y croen o leia, ac fel y gwelwch chi, mae’n gyhyr reit fawr. A phwysig. Mi dynnais i f’un i flynyddoedd yn ôl yn y coleg, pan es i o cartwheel i’r sblits mewn rhyw sioe, heb lanio ar fy nhraed cyn gneud y sblits. Ia, aw. A dwi’n cofio sut boen oedd o ers hynny. Felly pan ges i godwm ar fy meic ddydd Mawrth dwytha, a theimlo’r un rhwyg, ro’n i’n gwybod. Mynd lawr allt fwdlyd wnes i, a dychryn am eiliad o weld patshyn mawr o fwd – a brêcio. Dyyh. Wrth drio peidio mynd dros yr handlebars, mi deimlais i’r rhwygo mwya ofnadwy ma. Argol, roedd o’n brifo. Llwyddo i godi ar fy nhraed, yn trio canolbwyntio ar anadlu’n gall drwy’r boen. Mynd rhai camau gan wthio’r beic a sylweddoli mod i’n teimlo’n sal, isio chwydu, a mod i’n gweld sêr… peth nesa, ddois i ataf fy hun ar y llawr oer, tamp efo’r beic ar fy nghhoesau. Ro’n i wedi llewygu! Dwi’m wedi llewygu ers …. ers priodas Rhian Clwyd yn Kinmel Manor pan gaeodd ffenest fel guillotine ar fy mysedd i. A ble roedd Del, fy unig gwmni? Yn sbio ar wiwer …

Nes i lwyddo i gyrraedd adre rhywsut , yn oer, oer ac yn crynu. Tynnu fy nhrowsus mwdlyd oedd y darn mwya poenus!

Ta waeth, ro’n i’n gwybod nad oes dim fedar Dr yn ei neud, na physio chwaith; rhew, ‘elevation’ a a compression ydi’r ateb. Felly ers bron i wythnos, dwi wedi bod fel morfil ar y soffa yn clymu ice-packs ar gefn fy nghoes. Ac mae’n dal i frifo! Dwi’n mynd at y physio fory jest rhag ofn … i neud yn siw mod i’n gneud y pethe iawn. Dwi di bod yn trio stwytho chydig arni, ond dwi jest isio sicrhau fy hun mod i’m yn gneud drwg iddi.

Mae rhai pobl yn cleisio’n arw fel hyn:

images-1 Ond clais go ddu dan foch fy mhen ôl sydd gen i a chewch chi’m llun o hwnnw! Mi fyddai allan ohoni am 6 wythnos o leia, waaaaa!

Dim mynd ar y beic eto am sbel ( Del druan, mae’r ddwy ohonon ni’n pesgi, bobol bach) a dim garddio yn sicr! Do’n i’m wedi sylweddoli faint mae rhywun yn defnyddio ar y cyhyr yna i chwynnu, tynnu, palu, ayyb. Felly dyna fy esgus i dros stâd yr ardd ar hyn o bryd, iawn?

O ia, un llun arall:DSC_0067_2 Mae’r pryfed yma wedi bod yn crwydro o gwmpas y ty ers sbel, a do’n i methu dallt be oedden nhw, felly es i ar wefan NaturePlus i ofyn i’r arbenigwyr. ‘Wasp beetle’ ydi o – nid yn pigo na dim byd felly ac mae’n siwr bod wyau wedi deor yn y coed tân dwi’n ei sychu ar gyfer y llosgwr coed. Ond dywedodd un boi y gallan nhw ddodwy mewn distiau derw – ac y dylwn i gadw golwg! “The adults are pretty harmless its the Larvae that cause damage. Best check your beams for exit holes.”

AAAAA! Di’m yn dda ma …

Wps – bron anghofio – mae ‘na un neges hapusach – ffigyrau gwylio rhaglen Dolig Byw yn yr Ardd yn dda! Dim ond Pobol y Cwm a Dechrau Canu gurodd ni!


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: