Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Bangkok, bisgedi mêl, cwyr, Edward Werner, Gwrach y Gwyllt, gwyliau, Hanka, Higher Sorbian, mêl, Saigon, seilej, Sioe Ganllwyd, Sioe Rhydymain, Sorbeg Uchaf, tarten iola Horan
Sbiwch yr holl fu’n cystadlu yn yr adran fêl yn Sioe Ganllwyd. Sioe fechan ydi hi, ond roedd Carys wedi hel cystadleuwyr o bob man!
Roedd y stwff efo cwyr yn werth ei weld hefyd. Dwi’m wedi mentro gneud dim efo fy nghwyr eto. Ond mi wnes i gystadlu efo fy mêl yn yr adran mêl golau:
A nagoes, does na’m cerdyn o unrhyw liw wrth fy mêl i! Carys gafodd y cerdyn coch … mae gwybodusion y byd mêl ( wel, Wil) yn trio deud mai ffliwc oedd y ffaith i mi ennill yn Sioe Talybont. Hmff. Ac yn synnu at y ffordd ro’n i’n hidlo fy mêl ar y rhaglen y noson o’r blaen! Ylwch, dim ond unwaith o’r blaen dwi wedi mynd drwy’r broses, iawn? Ac ro’n i’n eitha siwr mod i’n gwneud rhywbeth o’i le. Be, dwi ddim yn siwr, ond gai wybod, dicini …
Ges i affliw o ddim am fy misgedi mêl chwaith:Ond roedden nhw’n flasus tu hwnt. Iawn, bosib nad oedden nhw i gyd cweit yr un lliw, ond dyna fo …
A dyma lun o darten Iola Horan, sy’n ennill am ei tharten ym mhob sioe mae’n trio ynddi:Be ydi’r gyfrinach dwch? A sut mae gneud tarten sy’n plesio’r beirniaid? Sgen i’m clem.
Roedd ‘na bob math o gystadleuthau ‘gwledig’ gwahanol yno: Yn wair a gwellt a seilej ( yn y bag Aldi!) a llysiau rhyfeddol o ystyried y tywydd a’r malwod.
Llongyfarchiadau i’r enillwyr oll, ac i Carys ac Enid yn enwedig, am drefnu’r holl beth – sydd ddim yn hawdd, mi wn. Cefnogwch eich sioeau bach lleol – a chynigiwch helpu os allwch chi! Mae Cyfarfod Blynyddol Sioe Rhydymain am 7.30 ar nos Fercher Tachwedd 7fed – a byddai croeso mawr i wynebau newydd …
Llun bach arall i chi rwan:Edward Werner, darlithydd o Leipzig ydi hwn, efo copi o ‘Hanka’, sef ei gyfieithiad o ‘Gwrach y Gwyllt’ i iaith o’r enw Sorbeg Uchaf ( Higher Sorbian), iaith leiafrifol yn ardal yr Almaen. Sbiwch ar Wicipedia os am fwy o fanylion am yr iaith. Mae o wedi dysgu Cymraeg ( wrth gwrs – sut arall fyddai o wedi gallu cyfieithu’r nofel?!) ac mi benderfynodd bod ‘na themau yn fy nofel i fyddai’n gweithio ar gyfer siaradwyr Sorbeg uchaf hefyd … dach chi’n gweld! Mae ‘na fwy na jest rhyw yn fy nofelau i, ffenciw! Ac ia, yn Ffrwd y Gwyllt mae o – alwodd o acw i roi copi i mi, cyn i ni fynd i hel madarch i ginio. Fel mae rhywun …
A dyna fy mlog olaf am sbel – dwi’n mynd ar fy ngwyliau (o’r diwedd) ddydd Gwener. Dwi’n mynd i feicio o Bangkok i Saigon. Gewch chi’r hanes pan ddoi’n ôl.
Twdlw am y tro – mae gen i waith pacio i’w wneud. X
*Newydd gael ebost yn holi sut yn union dwi’n bwydo’r adar efo uwd:
Dim ond taflu’r ‘rolled oats’ sych ar y lawnt/llwybr yn syth o’r bocs.
Neu ar y bwrdd adar – lle bynnag.
Dim llanast – mae fy adar i’n ei sglaffio i gyd o fewn dim!
Ond mae’n debyg eu bod yn hoffi sbarion uwd wedi ei goginio hefyd.
Gadael Sylw so far
Gadael sylw