Filed under: Heb Gategori | Tagiau: cwch gwenyn, diod siwgr, gwenyn duon Cymreig, haid, heidio, siwgr
Dim lluniau – rhy wlyb a sgen i’m mynedd, ac mi wnai eu hychwanegu eto – ond bellach, mae gen i dair cwch o wenyn!
Y cwch cyntaf, sy’n hapus braf. Gwenyn duon Cymreig
Yr haid – sydd rwan yn y cwch newydd ro’n i wedi ei pharatoi ers prynu’r stwff yn Llanelwedd. Cymysgedd ydi’r rhain dan ni’n meddwl – y drones yn wahanol – mwy o felyn ynddyn nhw.
Cwch llawr caled – brynais i gan John Porthmadog am £35, sydd â niwc brynais i gan Carys. Roedd hyn wedi ei drefnu cyn i’r haid hedfan dros fy mhen i! Gwenyn duon Cymreig.
Wedi rhoi digon o ddiod siwgr i’r 2 gwch newydd i’w helpu i setlo, ac hefyd am fod neges wedi dod drwy’r gymdeithas gwenynwyr bod llawer o wenyn yn llwgu i farwolaeth ar hyn o bryd am nad oes digon o fwyd iddyn nhw. Dyna pam fod rhain wedi heidio mae’n siwr, i chwilio am rywle efo mwy o fwyd. Wel, mi edrycha i ar eu holau nhw.
Iawn, gwell picio i dre – dwi wedi rhedeg allan o siwgr.
1 Sylw so far
Gadael sylw
Gwych a chyffrous. Mae o more bwysig edrych ar ol gwenyn y dyddiau yma. Dwi ddim am cael cwch gwenyn yn gy ngardd yn y dre, ond dwi yn gneud ymdrechion mawr i dyfu planhigion mae nhw’n hoffi.
Sylw gan Ann Jones Mehefin 15, 2012 @ 2:05 pm