BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Glaw, gwenyn a thrychiolaethau

Mae hi’n piso bwrw yma. Roedd yr ardd angen y glaw, ond dwi wedi cael digon o fod yn wlyb rwan. Mi ddylwn i fod yn sgwennu nofel i blant uwchradd ac mi fyddech chi’n disgwyl y byddai’n haws aros o flaen y cyfrifiadur ar ddiwrnod gwlyb fel hyn, ond am ryw reswm, nid felly y mae. Dwi’n sbio drwy’r ffenest ac yn ysu i’r diferu stopio er mwyn i mi gael awyr iach rhwng paragraffau. Dwi wedi bod allan ar y beic efo Del bore ‘ma ( efo dillad glaw a welintyns) a mwynhau hynny ond mae isio mynedd mentro allan eto.

Dwi newydd symud darnau’r cwch gwenyn newydd o un sied i’r llall am fod y sied wreiddiol yn gadael glaw i mewn a gwlychu fy mhren. Ro’n i wedi eu paentio efo stwff pwrpasol, ond prin fod angen iddyn nhw foddi, bechod.

Mi wnes i lwyddo i roi’r caead at ei gilydd o leia, ar ôl cael cyfarwyddiadau ar y we ( ar ôl rhoi’r bali peth at ei gilydd yn anghywir y tro cynta) – a tharo fy mawd fwy nag unwaith. Ond mae’r bocsys yn gorfod aros – nes bydd gen i’r amynedd i’w taclo neu nes bydd Carys Tractors yn galw!

Dwi wedi sgwennu colofn Herald arall am y ffordd mae’r gwenyn wedi effeithio ar fy mywyd i ( Daily Post Mercher yma) a dyma i chi gwpwl o luniau gymrais i o fy ngwenyn i pan oedd y tywydd yn eu siwtio’n well:

Ar fy nghoeden geirios drist ( weeping cherry?) mae’r rhain, reit o flaen y ty: A na, dydyn nhw’n poeni dim ar Del hyd yma. Y cachgi-bwms ( bumble bees) sy’n ei styrbio hi – dod o nunlle, yn fler a swnllyd tydyn?

Ond mae na rywbeth mawr wedi bod yn fy styrbio i yn y pwll … Sbiwch hyll a milain! Larvae y Great Diving Beetle: Dwi wedi blogio am rhain o’r blaen, llynedd, pan wnes i eu darganfod gyntaf. Ac maen nhw wedi bod yn brysurach fyth eleni:

Mae’r holl filoedd o benbyliaid wedi mynd lawr i un neu ddau – OHERWYDD Y DIAWLIED YMA! Dwi wedi bod yn eu dal efo rhwyd a’u lladd – o leia deg y diwrnod ( heblaw heddiw). Ydw, dwi’n teimlo’n gas a chreulon am ymyrryd efo trefn natur, ond llyffantod dwi isio yn fy ngardd, nid rhain! Mae larvae gwas y neidr yno hefyd, sy’n fwy, ac yn bwyta mwy o benbyliaid mae’n siwr, ond dwi’n hoffi gweld gwas y neidr acw, felly mae’r rheiny’n cael byw. Ond dwi wedi symud un i’r pwll yn y ffos o flaen y ty, lle nad oes penbyliaid. Geith o fwyta be bynnag licith o yn fanno.

Dwi wedi cymryd lluniau fy hun o’r larvae great diving beetle ond does gen i’m mynedd aros i’r rheiny lawr lwytho jest rwan. Gewch chi eu gweld nhw ryw dro eto.

O, a dwi’n meddwl bod gen i lygod mawr yn y wal ar waelod yr ardd eto. Mae Del yn rhedeg ar ôl rhywbeth beth bynnag, a dwi’n nabod eu hôl nhw wrth y wal bellach. Bwyd yr adar sy’n denu’r rheiny. Ond dwi’n mwynhau bwydo’r adar! Er eu bod nhw’n costio ffortiwn i mi. Unrhyw un yn gwybod ble ydi’r lle rhata i brynu bwyd adar? Dwi’n siwr bod bag o gnau mwnci yn codi yn ei bris jest cymaint â phetrol. Grrrr.

O ia, gyda llaw, mi fydd BYYA ar S4C eto yn fuan – Ebrill 18. Dwi newydd recordio’r troslais cynta am eleni.

Iawn, nôl at y nofel … cyn gwneud fy wac yn ein maes carafannau yn Nolgamedd. Dwi’n cymryd y bydd y creaduriaid oedd mewn pebyll neithiwr wedi penderfynu mynd adre, bechod …


2 o Sylwadau so far
Gadael sylw

Meddwl baswn i’n gadael sylw gan bod fi’n blogio fy hun ac yn licio pan mae rhywun yn gadael sylw! Mae gweld ti’n dechrau gyda’r gwenyn gyfres diwetha (a gweld sut ti’n dod ymlaen tro yma – bues i’n isdeitlo rhaglen 1 heddiw!) yn gwneud i gadw gwenyn ymddangos yn hwyl – dw i ddim yn hoff o fel fy hun, ond mae fy ngwraig a fy nhad-yng-nghyfraith wrth eu boddau gyda’r peth ac mae o’n goblyn o ddrud dyddiau yma. Hefyd, mae’n edrych fel bod y gymuned cadw gwenyn yn un glos gyda rhai profiadol yn hael eu cyngor.

Wrth gwrs, mae ochr mwy difrifol i gadw gwenyn hefyd gan bod nhw’n greaduriaid mor bwysig ym myd natur yn peillio cymaint o blanhigion. Falle bod ti’n cyffwrdd ar hyn yn yr erthyglau Herald. Mi biciaf i weld os ydynt arlein (wedi sbio, ac ydynt).

Sylw gan Rhys Wynne

Diolch, Rhys! Newydd fod yn gofalu bod ganddyn nhw ddigon o fwyd dros yr wythnos wlyb ac oer i ddod. Ond byth wedi gorffen rhoi’r ail gwch at ei gilydd …

Sylw gan bethangwanas




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: