Filed under: Heb Gategori | Tagiau: Bethan Edge, Caerwent, Dewstow, Henry Oakley, James Pulham, John Harris, Maffia Mr Huws, Sir Fynwy
Da ydi Facebook. Drwy hwnnw ges i neges gan Bethan Edge ( Bethan Maffia Maniac ers talwm, am ei bod hi wedi gwirioni efo Maffia Mr Huws)
yn deud ei bod yn byw yn Sir Fynwy bellach a bod ‘na ardd wych wrth ei hymyl. Felly dyma sbio ar wefan yr ardd, neu’r gerddi hynny a ges i ngyrru yno gan y cynhyrchwyr bron yn syth! Dio’m yn bell o Bont Hafren – mi welwch chi’r bont o waelod yr ardd fan hyn: Wel, rhan ohoni – yn edrych fel pyst rygbi. Caerwent ydi’r pentre, nid nepell o Gil-y-coed neu Galdicot. A http://www.dewstow.co.uk ydi’r wefan. Mae’n werth mynd yno, yn enwedig os oes gynnoch chi blant, gan fod plant dan 10 yn cael mynd mewn am ddim ac mae na ddigon yno i’w diddori, rhwng helfa dedi bêrs, digon o wair i redeg a chwarae arno, pyllau lu a llwyth o fywyd gwyllt i sbio arno. O, ac mae na gwrs golff 18 twll hefyd.
Ond hanes y lle sy’n ddifyr. Mae’n hen, hen le ( Dewi’s Stow) a sôn am eglwys Sanctus Dewin nôl yn y 6ed ganrif, ond yn 1893 y newidiodd pethau o ddifri. Henry Oakley, dyn hynod ariannog brynodd y lle a dechrau canolbwyntio ar ei ddau brif ddiddordeb – magu ceffylau gwedd a garddio. Roedd na dwtsh o Michel Jackson ynddo fo ac mi benderfynodd greu rhyw fath o fyd ei freuddwydion a chyflogi sêr garddwriaethol y cyfnod – James Pulham & sons o Lundain i wireddu’r freuddwyd honno. Dyma i chi luniau o sut oedd pethe: Cliciwch ar y llun ac mi aiff yn fwy. Mi wariodd ffortiwn, ond pan fu o farw, doedd gan ei etifedd ddim diddordeb mewn garddio ac roedd angen tir ffarmio am ei bod hi’n gyfnod yr ail ryfel byd. Cafodd y cwbl ei orchuddio a’i lenwi i mewn, pob ogof, pob pwll, pob dim. Ac am fod Oakley yn foi hynod breifat, doedd fawr o neb yn gwybod am y gerddi beth bynnag.
Ond yn 2000, mi nath y perchnogion presennol ( eu taid oedd un o’r gweithwyr ers talwm) ddarganfod grisiau … a dechrau tyllu. Waw. Dychmygwch ddod o hyd i hyn i gyd!
Ia, Bethan a fi yn un o’r twneli – mae na domen ohonyn nhw – a rhai yn dywyll iawn! Na, doedd na’m planhigion yno pan gawson nhw eu hail ddarganfod, mae na lot fawr o waith a phres wedi mynd mewn i’w cael nhw’n debyg i sut oedden nhw ers talwm.
Bu’n rhaid gweithio’n galed ar y pyllau a’r llynnoedd hefyd: Ia, cymylau yn cael eu hadlewyrchu yn y dwr – da de! Tra roedd hi’n tresio bwrw yng ngweddill Cymru, roedd hi’n hyfryd yn Dewstow – nes i ni orffen ffilmio – ffiw.
Mi wnes i wir fwynhau ein diwrnod yn Dewstow – sbiwch y wên – Ac roedd y tad a’r mab sydd pia’r lle – Elwyn a John Harris, yn glen tu hwnt. Y clwb golff sy’n talu am y lle hyd yma – llafur cariad oedd gwario’r holl ar atgyfodi’r gerddi ond maen nhw’n haeddu eich cefnogaeth felly ewch yno! Efallai y gallan nhw rhyw ddiwrnod ailgreu’r ‘Tropical house yma:
oedd yn llawn planhigion rhyfeddol, parots a hyd yn oed ambell fwnci yn ôl y sôn! Lle hyfryd a stori werth chweil.
Gadael Sylw so far
Gadael sylw