BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Ffrwd y Gwyllt efo camera da
Gorffennaf 25, 2011, 8:08 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , ,

Dwi wedi colli charger fy nghamera da ( Nikon D3000) ers misoedd. Dim clem ble dwi wedi’i roi o. Felly wythnos dwytha nes i archebu un newydd drwy’r we – un oedd i fod i allu ‘charjio’ pob math o fatris, yn cynnwys y D3000. Hy. Dwi wedi methu gneud pen na chynffon ohono fo. Ond neithiwr, mi feiciais draw at dy fy ffrind, Luned. mae gan ei mab hi, Ioan, yr un camera, felly dwi wedi cael benthyg ei charger o, a bore ma, ges i fodd i fyw yn cymryd lluniau. Nefi, mae camera da yn gneud gwahaniaeth!

Iawn, rhai bach ydi’r rhain ( haws a llawer cynt eu lwytho i’r blog yma) ond mae eu safon yn dal gymaint gwell na’r camera bach Olympus.

Dyma rai i roi syniad o sut stad sydd ar yr ardd y dyddiau yma:

Reit ddel yma tydi?Do, dwi wedi bod yn torri’r lawnt yn hogan dda – ond fydda i’m yn trafferthu tacluso llawer ar ochrau’r borderi, rhaid cyfadde. Mi wnai ryw ben.

Dyma du mewn y ty gwydr:

Ydi, pob dim ar draws ei gilydd braidd, ond bocsys sy’n gorfod gneud y tro fel silffoedd … dal i ddisgwyl i’r tomatos gochi hefyd. Ond mae gen i un ciwcymbar anferthol! Neith o gadw at Sioe Rhydymain ddiwedd Awst? Go brin …

Dyma’r goeden afalau Enlli gafodd ei sythu efo parau o deits – llwyth o afalau ylwch!

A’r gornel dywyll sydd yn dal braidd yn dywyll felly dwi wedi torri mwy o ganghennau er mwyn i’r bysedd y cwn lliwiau gwahanol sydd wrth y bonyn gael mwy o olau er mwyn i mi gael blodau fel sydd ar y ddau arall!

A chydig o luniau sbar o’r sied eco ayyb … mi fydd y criw ffilmio’n ôl yma ar ôl Steddfod. Gawn ni weld os fydd cystal graen yma erbyn hynny!


2 Sylw so far
Rho sylw

Mi elli di hongian hen fanana wrth y tomatos i gyflymu’r broses o gochi os sy gen ti ddim mynedd fatha fi!wm

Sylw gan Owain Roberts

Yng nghanol y tatws a’r moron
Gall Gwanas ymddwyn yn wirion
yn fflyffio ei geiriau
a methu y camrau
Ond be ti’n ddisgwyl gan hogan o Feirion!!!!

Son am gamera – allai ddim a pheidio argraffu hon ar dy dudalen Bethan!

Sylw gan Selwyn




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: