BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Mostyn
Gorffennaf 10, 2011, 12:25 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , ,

“Mae ‘na fistar ar Mistar Mostyn.” Dwi wedi clywed y dywediad yna droeon dros y blynyddoedd ond doedd gen i’m clem pwy oedd Mistar Mostyn – tan yn ddiweddar. Y teulu Mostyn oedd un o’r teuluoedd cyfoethocaf yng Ngogledd Cymru, nhw ddatblygodd Llandudno a’r stad pia ei hanner o hyd, a dyma’r hen blasdy:

Mae’n dyddio’n ôl i’r 1500au, ac mae’n hyfryd. A dyma i chi be welwch chi wrth fynd drwy’r cyntedd at ble mae’r plasdy mwy ‘modern’:

Sgen i’m syniad faint ydi oed hwnna, ond dio’m yn edrych yn newydd … a be am y plasdy ‘newydd’? Wel, dwi’m yn siwr pryd gafodd o’i adeiladu, ond mi gafodd ei adnewyddu yn y 1840au, a dyma fo:

Oes, dipyn o seis arno fo does? Ond does ‘na neb o’r teulu Mostyn wedi byw yma ers 2009. Mae’r arglwydd presennol, sy’n ddim ond 26 neu 27, yn byw yn Llundain ac yn picio yma ambell benwythnos, felly ty ha ydi yn y bôn. Ty ha?! Ond mae na 5 person yn cael eu cyflogi i ofalu am y ty a mwy yn gofalu am y stad a dau arddwr. Dim ond dau, lle unwaith bu 52.

Dyma lun o Syr Thomas Mostyn Mostyn – (Knight. 1535 – 1617 yn ôl y we). Tybed ai fo oedd Mistar Mostyn y dywediad? Ond beryg mai un o’r rhai ddaeth wedyn oedd o, gan eu bod nhw’n farwniaid toc wedyn, nid dim ond ‘syr’. Ond ro’n i isio dangos llun hwn am ei fod o’n caru adar! A finne, mêt – a dwi wedi cael ymateb da iawn i hanes y Gnocell fraith leiaf. Dyna destun colofn yr Herald wsnos yma!

Ond yn ôl at Mostyn. Roedden ni gyd fel criw wedi synnu at ysblander y ty a jest a marw isio sbecian drwy ffenest, ond fiw i ni – dwi’m yn amau mai dyma’r tro cynta i gamerau teledu gael dod yma; yn sicr, dydi o ddim ar agor i’r cyhoedd, a doedden ni m’ond yno am fod ‘Groundworks’ wedi ein gwadd ni yno am eu bod nhw’n atgyfodi’r hen erddi efo help criw o hogia sydd ar brosiect dysgu bod yn arddwyr. A chriw da oedden nhw hefyd. Dyma un yn yfed ei baned allan o jwg am nad oedd digon o fygiau i bawb efo ni!A rhai o’r lleill yn gweithio ar yr ardd Siapaneeg na chafodd byth ei chwblhau:Ond y prif brosiect ydi’r hen ardd fu’n tyfu llysiau – y ‘walled garden’ mwya i mi ei weld erioed!

Mae o’n anferthol! 2.4 acer. Pan gafodd ei godi yn 1830, mae’n rhaid ei fod yn anhygoel, ac yn 1965, roedd na 12 garddwr yn dal i weithio yno, ac yn tyfu llysiau hyfryd. Ond wedyn, mi fu’n le i fagu ffesantod, ac wedyn yn blanhigfa coed conifer, a choblyn o waith oedd ei glirio eto a llwytho pridd a thail yno er mwyn gallu tyfu llysiau eto. Ond maen nhw’n llwyddo. Gyda chymorth y ty gwydr 350+ troedfedd sy’n dyddio’n ôl i tua 1790. Ro’n i wedi gwirioni efo’r criw a’r lle. Un o’r dyddiau sy’n gwneud i mi deimlo’n hynod lwcus yn cael cyflwyno rhaglen fel ‘Byw yn yr Ardd’! Ew, dwi’n cael gweld pethe a dysgu cymaint. Ond mi wnes i un smonach … golles i transmitter y meic radio i lawr y ty bach … wps. Dim clem os dio’n gweithio bellach.

Mwy o luniau i chi i orffen, yn cynnwys gardd rosod hyfryd un o’r garddwyr llawn amser, a’r ‘M’ am Mostyn ar y ty – methu aros i weld yr eitem. O, a fydd hynny ddim tan Gorff 27 o leia – dydan ni’m ar yr awyr o gwbl fis yma! Bali gemau pêl-droed a sioe a ryw bethe felly. Grrr.


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: