BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Y Gampfa Werdd, Guto a’r Felinheli
Gorffennaf 4, 2011, 11:22 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , ,

Dwi wedi dod dros colli fy ngwybedogiaid. Bosib eu bod nhw’n rai sydyn iawn am ddysgu hedfan ac wedi gneud hynny tra ro’n i i ffwrdd? Ond go brin. O wel. Flwyddyn nesa falle. A phun bynnag, mae’r gnocell fraith leiaf – a’i phlentyn yn dod i’r ardd bob dydd, a’r un ifanc yn bwydo hyd yn oed os dwi wrth y bwrdd picnic wrth ei ymyl! Gai lun call un o’r dyddie ma…

Ond ges i goblyn o hwyl wythnos dwytha, rhaid cyfadde. Nabod fama? Ia, y Felinheli.

A cofio’r boi yma? Fues i’n dysgu Ffrangeg iddo fo yn Amlwch, cofiwch – ac mae’n cofio’n eitha da – er na ddewisodd o astudio’r pwnc. Ond dyna fo, difaru mae o erbyn heddiw, fel pawb arall. Dysgwch iaith arall y diawlied diog! Ond mae o’n arddwr reit dda. Ia, Guto ydi hwn, sy’n rhedeg y Gampfa Werdd yn y Faenol, ger y Felinheli. Fuon ni yno dair blynedd yn ôl ac roedden ni isio gweld sut mae’r lle wedi altro.

Fel y gwelwch chi, mae hi wedi altro’n arw – llwyth o blanhigion gwahanol yn tyfu’n dda, er gwaetha’r ceirw sy’n chwalu pob dim weithie … a pholytunnel mawr sydd â chnwd da o india corn, tomatos ac ati. Bydd pobl yn mynd yno i wella eu iechyd meddwl, ond jest i helpu ac ymlacio hefyd. Maen nhw’n hapus iawn i dderbyn gwirfoddolwyr sydd unai’n gallu garddio neu isio dysgu garddio. Y gampfa werdd ydi enw’r lle, felly rhowch hwnnw yn Google ac mi gewch y manylion.  Yno i helpu i gasglu stwff i’w werthu yn noson cynnyrch lleol gwyl y Felinheli o’n i, dyma un o’r bocsys aeth i fwt y car: Ia, artichokes a bob dim! Aeth y tatws i gyd, a’r rhan fwya o’r bagiau golosg maen nhw hefyd yn eu gwneud. A dyma i chi rai o’r stondinwyr eraill.Brynais i’r ffedog yna, a ges i bâr o glust-dlysau del iawn hefyd! Syniad gwych ydi cael noson fel yna a dwi’n siwr bod y cynhyrchwyr lleol wedi gweld budd ac elw. Cofiwch chi, roedd na gymaint o sêr Rownd a Rownd a’r byd teledu yn y dent – oedd yn cuddio rhag y camera, mae’n syndod i ni ffilmio unrhyw un o’r cwsmeriaid yno. Ond diwrnod da – hir, ond hwyliog. A drannoeth, ges i weld rhywle anhygoel, ond gewch chi’r hanes hwnnw yn y blog nesa…

 


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: