BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gwybedog Brith!
Mehefin 29, 2011, 9:55 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , ,

Wel nefi wen, be ddeudis i? “Ond yn sicr, nid gwybedogiaid brith mohonyn nhw – dwi’m di gweld un o’r rheiny acw eleni eto. Byw mewn gobaith.”

Dwi bellach wedi sylweddoli mai gwybedogiaid brith ( pied flycatcher) sydd wedi nythu yn y bocs, nid titws. Sylwi ar swn deryn blin wnes i wrth gloi drws y ty bore ‘ma cyn mynd ar y beic efo Del; wedi craffu mewn i’r coed, dyma weld mai slaff o wybedog gwyrw, tew a’i fol gwyn wedi pwffian allan oedd yn protestio. Ro’n i’n falch iawn o’i weld o, gan mod i’n cael pâr yn nythu yma bob blwyddyn ond yn eu gweld y hwyr iawn yn cyrraedd eleni. Dyma i chi lun o un busneslyd iawn oedd yn mynnu hedfan mewn i nghegin i rhyw ddwy flynedd yn ôl:

Dowcs, tybed ai hwn sy’n y bocs wedi’r cwbl, ac yn meddwl bod Del neu fi’n mynd i fusnesa yno? Wedi dod nôl o’r beicio, roedd o’n cega eto, felly wedi mynd mewn i’r ty, nes i sefyllian wrth y ffenest fechan – am hydoedd – nes ei weld yn hedfan mewn i’r bocs. Ieeee!

Ond wedi rhoi’r teledu ymlaen, ges i siom. Dim ond un cyw sydd yno bellach; dwi’n gallu gweld corff marw un cyw oddi tano fo ond dim golwg o’r ddau arall. Unrhyw un ag unrhyw syniad be allai fod wedi digwydd?

Hefyd, dwi wedi gweld bod y rhiant yn dod mewn ac nid yn bwydo’r cyw. Tybed ydi o’n gallu clywed y sain o’r teledu ac yn drysu, methu dallt be ydi’r llais cyw ychwanegol ma? Dwi wedi troi’r sain reit i lawr rhag ofn.


3 Sylw so far
Rho sylw

Bethan
Stori trist. R’oedd nythau y gwybedogiaid brith wedi methu ar Springwatch hefyd, h.y. bod y cywion wedi marw ar ol i’r rhieni methu cael digod o fwyd (efalla). Roedd arbenniggwr yn dweud na efalla ail nyth (wn i ddim be di’r gair Cymraeg am “brood”) oedd o – a bod hein ddim mor lwyddianus. Fellky efalla eu bod wedi cael cywion sydd wedi llwyddo yn barod.

Sylw gan Ann Jones

Drapia, wedi bod i ffwrdd tan heno, a’r peth cynta wnes i oedd rhoi’r camera mlaen ar y teledu. Dim yw dim, dim byd, dim ond y corff cyw gwreiddiol. Es i agor y bocs wedyn a’i dynnu oddi yno. Dim golwg o gyrff eraill. Tase rhywbeth yn eu bwyta, mi fyse wedi cymryd y corff hwnnw hefyd dybiwn i. A does na’m posib eu bod nhw wedi hedfan y nyth mor sydyn nagoes? Be ddigwyddodd i fy nghywion druan? Roedd ‘na gyrff yn nythod Springwatch, dwi’n cymryd?

Sylw gan bethangwanas

R’oedd, yn ol be dwi’n cofio

Sylw gan Ann




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: