Filed under: Heb Gategori | Tagiau: ailgylchu, Bronant, Bwlch y Geuffordd, cors, NGS
Jim a Gay Acers ydi’r ddau yma, a nhw yw perchnogion un o’r gerddi hyfryta i mi ei gweld eto! Bwlch y Geuffordd ydi’r enw, mewn man anghysbell iawn yn ochrau Bronant, rhwng Aberystwyth a Thregaron. Mae’n rhan o gynllun yr NGS felly os gewch chi gyfle i fynd yno, cerwch da chi.
Y peth rhyfedda am y lle ydi eu bod wedi creu gardd eden o fewn cors. Wir yr, mae’r tir yn fanna yn erchyll. A be wnaethon nhw ond plannu llwyth o goed rownd yr ochrau yn gynta, i sychu rhywfaint ar y lle. Ond fel y gwelwch chi o faint y dail yma, mae hi’n dal yn o damp yno!
Ond dim ond angen gwneud twll sydd er mwyn creu pwll neu lyn o fewn dim – maen nhw jest yn llenwi’n naturiol. Felly mae na ddigonedd o byllau a nentydd yno, yn llawn planhigion o bob math.
Ond mae na fwy na pyllau yma. Yr ardd Siapaneiadd welwch chi uchod – wel, rhan ohoni, ond mae na ardd y Canoldir hefyd, a hyd yn oed gardd Affricanaidd, efo cwt mwd hyfryd!
A dwi’n cynnwys llun agosach o’r ffenestri o’r tu allan i chi gael gweld. Syniad gwych, ac ailgylchu efo steil ynde.
Er mai ffisiotherapydd ydi Gay, mae hi’n amlwg yn artist hefyd gan mai hi sydd wedi gneud y rhan fwya o’r cerfluniau sydd ar hyd y lle.
Ond mae Jim yn artistig hefyd a fo nath hwn efo llewpart ar ei ben.
Ond y piece de resistance ydi’r aderyn anhygoel wnaeth y ddau a’u merch allan o hen danciau dwr a mwy o boteli a marblis, er cof am ferch arall fu farw’n ifanc iawn. Dyma i chi luniau o wahanol onglau.
Do, mi wnes i gymryd llwyth o luniau – methu peidio!
Ac i orffen, mwy o luniau o wahanol rannau o’r ardd. Do, mi gafodd Del ddod tro ma hefyd, am fod yr ardd wedi hen arfer efo cwn. Ond ffoniwch mlaen llaw i weld os ydyn nhw’n hapus i chi fynd a’ch ci chi yno hefyd.
01974 251559
Mwynhewch! Mi wnes i.
Gadael Sylw so far
Gadael sylw