BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Duncan Brown a gwyfynnod
Mai 6, 2011, 10:50 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , ,

Mae’n siwr eich bod chi, fel fi, wedi clywed llais y naturiaethwr (gwybodus a thrylwyr sydd â diddordeb arbennig yn hanes naturiaethol Cymru), Duncan Brown ar y radio ganwaith, ond dyma sut mae o’n edrych:

Dydi o’m yn hoffi cael tynnu ei lun – tueddu i edrych yn gas – felly dyma un arall efo rhyw arlliw o wên:

Mi fydd yr eitem hon wythnos nesa dwi’n meddwl – neu’r wythnos wedyn. Ges i weld ei ardd o, sy’n llawn planhigion efo hanes neu enwau difyr neu i ddenu bywyd gwyllt – a gwyfynnod. Moths ydi’r rheiny. Mae o’n perthyn i  sawl mudiad a phrosiect sy’n cofnodi a chyhoeddi gwybodaeth gwerthfawr, a dyna pam ei fod o’n dal a chofnodi gwyfynnod yn ei ardd o leia unwaith yr wythnos, a phan fydd o a’i wraig, Jill, yn mynd ar wyliau yn y campafan welwch chi’n y cefndir, mae’r teclyn dal gwyfynnod yn dod hefyd.

A dyma i chi lun o hwnnw, wel, un ohonyn nhw:

A be ydi’r holl focsys wyau? Wel o dan rheiny y byddan nhw’n cuddio nes iddo fo agor y caead yn y bore.

Doedd y diwrnod roedden ni yno ddim yn gasgliad arbennig medda fo, ond ges i fy syfrdanu gan y rhai oedd yno, dyna i chi hwn, er enhgraifft:

Edrych fel brigyn tydi? Ond gwyfyn ydi o – wir yr. A dyma i chi lun sy’n dangos ei faint o. A maint fy rhychau i hefyd, ond dyna fo.

Dwi’m yn cofio’i enw o rwan ( mi fydd Duncan yn deud ar y rhaglen) ond rhywbeth fel Blaen Brigyn? Mae gan wyfynnod enwau Cymraeg hyfryd ( diolch i Duncan a’i fêts) fel Teigr Cochddu, Bwrned Chwe Smotyn, Teigr y Benfelen , Gem Fforch Arian ayyb. Ac mae na gryn dipyn o wahanol wyfynnod yn y byd ma – ac mae Duncan fel encyclopedia.

Mae ei wybodaeth am enwau planhigion hefyd, hanes planhigion, a hanes enwau planhigion yn syfrdanol. Codi cywilydd ar rywun a deud y gwir.

Ond mae ei gi o, Pero, yn boncyrs. Dyma fo, efo un o’i hoff degannau. Tra dwi’n sgwennu hwn, mae’r llun reit wrth ymyl y frawddeg yma, ond pan fyddai’n clicio’r botwm ‘cyhoeddi’ mi fydd o wedi symud, mwn.

Roedd gen i ddiddordeb mewn gwyfynnod eisoes, ond mae gen i fwy rwan. A’r rheswm roedd gen i ddiddordeb? Am mod i wedi gweld gwyfyn anghyoel ar fy ffenest i ryw noson, un mawr, gwyn, oedd yn edrych yn union fel brenhines y tywlyth teg yn sbio i mewn arnai – a nago’on, do’n i ddim wedi bod yn yfed! Mi wnai chwilio ar y we rwan i weld os fedrai ddod o hyd i lun sy’n dangos be welais i … na, wedi chwilio’n ddyfal a does na’m byd tebyg i be welais i, ddim hyd yn oed llun artist. Ond falle bod rhain yn rhoi rhyw fath o syniad i chi- ond roedd corff y gwyfyn fel siap corff dynes hir, denau, osgeiddig, nid pry!

O wel, os welai wyfyn tebyg eto ai i chwilio am fy nghamera.

Dwi newydd fod yn chwilio eto o dan ‘moth on window’ ac mae hwn yn agosach ati mae’n debyg:

A dwi’n meddwl mai gwyfyn tebyg i hwn oedd o, ond dwi’m yn siwr:


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: