BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Seren Fach – sgynnoch chi flodau sbâr?
Mawrth 17, 2011, 12:05 pm
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , ,

Mae ein hen gapel Methodist ni yn y Brithdir wedi ei droi’n feithrinfa: ‘Seren Fach’ – enw da o gofio hanes yr adeilad ynde? Wel, mae’r lle wedi ffynnu a thyfu a chael estyniad a gardd chwarae newydd, ond mae angen planhigion, felly es i draw yno efo Carol Gerecke wythnos yma. Dyma hi efo Eleri Nanthir ( gynt) o flaen yr hen gapel.

Ond dim ond rhyw £800 sydd ar gael i brynu planhigion – £1,000 ar binsh, ac mae’r ardal oedd gan Eleri mewn golwg braidd yn fawr; fysa’r pres yna ddim yn mynd yn bell iawn.

Dyma’r cefn, ac roedd Eleri wedi gobeithio gallu plannu pethau rownd y 3 ochr, yn dilyn y ddwy ffens a’r wal gerrig, ac yn y teiars anferthol gafodd eu rhoi gan Saracens Bala fel ‘planters’.

Ond beryg mai dim ond ar hyd un wal neu mewn patshys bychain y bydd modd plannu. Ar ben hynny, mae’r pridd yn fwy o glai na dim byd arall. Ac mae tair o’r pedair teiar yn rhy uchel i blant bach fedru plannu a chwynnu. Syniad Carol oedd rhoi llysiau yn rheiny, fel ffa, pys ac ati. Ac er mwyn i’r pres fynd yn bellach, dywedodd y gallai Eleri ofyn i rieni a bobl leol roi planhigion at yr achos. Dwi’n gêm i roi geraniums – mae gen i domen ohonyn nhw! A’r pethau sy’n edrych fel brwshys toilet – byth yn cofio’r enw. Mae Carol isio rhai o’r rheiny ei hun gen i beth bynnag.

Ond fel mae’n digwydd, mae na gylch o blanhigion a choediach o flaen y feithrinfa:

Mae ‘na lawer gormod wedi eu gwasgu i mewn iddo fo a digon hawdd fyddai eu trawsblannu i’r cefn. Felly dyna arbed pres yn fanno’n syth.

Ond os ydach chi’n weddol lleol neu’n digwydd pasio, oes gynnoch chi blanhigion y gallech chi eu rhoi at yr achos?  Mi fysa’r plant a’r staff i gyd yn hynod ddiolchgar! Ac mi fyddai’n help i fagu cenhedlaeth newydd o blant sy’n caru planhigion ac yn eu dysgu sut i blannu eu bwyd eu hunain …

Dydyn nhw’m yn barod amdanyn nhw eto, ond mi fyddan nhw toc, o fewn yr wythnosau nesa ‘ma.

Gyda llaw, fues i’n Llundain yn ddiweddar ( dim byd i neud efo BYYA) ac es i i’r British Museum. Nes i wirioni efo’r stwff o Africa, a phan weles i hwn, hen, hen geiliog brass o Benin, nes i feddwl am Russell.

Felly mae hwn i ti, Russ. Do’n i methu ei brynu (llawer rhy ddrud, hyd yn oed tase fo ar werth!) felly rhaid i lun iphone neud y tro. Ond tydi o’n smart?


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: