BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Adrenalin ac ati
Mawrth 3, 2011, 12:11 am
Filed under: Heb Gategori | Tagiau: , , , ,

Dwi wedi bod yn brysur yn mwynhau fy hun yn ddiweddar. Oedd, roedd Rhufain yn wych ond does dim rhaid teithio’n bell i gael diawl o amser da. Dwi wedi bod yn cael gwefrau lu i gyd o fewn rhyw 20 milltir o ngharte.

Rafftio fues i bore ‘ma – efo Mam, sy’n 69. A naci, nid ni sy’n y llun. Roedd na foi’n cymryd lluniau ohona i’n cael fy ngwlychu’n socien ond weles i mo’r lluniau cyn gadael. Ond ro’n i rwbath tebyg i’r boi ar y dde. Yn Frongoch oedden ni, lle cafodd fy Mam ei magu – ac yn afon Tryweryn ddysgodd hi nofio – cyn codi’r argae. nefi, gawson ni hwyl.

Ac rhyw 10 diwrnod yn ôl, fues i’n Corris Mine Explorers efo Dad.

Tipyn mwy difyr na’r trip Brenin Arthur – dydi hwn ddim yn addas i blant ifanc, ac mae o wir yn agoriad llygad ac yn werth ei wneud.  A dim ond lawr y ffordd yng Nghorris! Pwy fysa’n meddwl bod na fyd arall dan ddaear yn fanno? Byd sydd wedi ei agor i ni – am bris reit rhesymol.

Os ydach chi’n diodde o glawstroffobia neu ddim yn hoffi’r tywyllwch, wnewch chi ddim ei fwynhau o. Ond mi wnes i a Dad ei fwynhau o’n arw. Ac mae’n goblyn o job ei gael o i wneud pethau fel hyn fel arfer.

Ond yr hufen ar y gacen oedd y pnawn dreuliais i yng Nghoed y Brenin, Ganllwyd efo Graham a Jackie sy’n rhedeg cwmni beicio mynydd Snow Bikers. Iawn, dwi’n beicio bob dydd ryw ben, ond rhyw feicio digon diniwed, dim byd hard-core, er mod i wedi mynd lawr trac go hawdd yng Nghoed y Brenin efo Del gwpwl o weithiau. Ond mae Graham yn diwtor arbennig iawn, a ges i fodd i fyw yn dysgu technegau newydd a sut i wir falansio’n gywir. Er mod i chydig yn annifyr pan gymerwyd y llun yma…

Mae na fidio fan hyn hefyd:

SnowBikers Taster Session at Coed y Brenin
www.youtube.com
Ond dydyn nhw’m wedi dangos ein darnau gorau ni! Roedd y coc-yps yn fwy digri am wn i.
Dwi’n llawer gwell beicwraig rwan ac yn ysu am fynd i feicio efo Graham a Jackie eto. Amser ydi’r broblem wrth gwrs. Tydi’r ardd yn galw dragwyddol, heb sôn am waith ty a gwaith sgwennu a golygu – a Byw yn yr Ardd wrth gwrs, er bod y ffilmio reit dawel ar hyn o bryd. Mi fydd pethau’n newid toc… Dyna pam dwi wedi bod yn stwffio’r pethau ma i gyd mewn tra medrai.
Ond mae o jest yn profi cymaint sy na i’w weld a’i wneud yn yr ardal yma. Dim rhyfedd bod bobl y dinasoedd yn prynu tai yma fel pethau gwirion. Pryd fydd y Cymry sydd wedi symud i Gaerdydd yn sylweddoli bod bywyd gymaint gwell yn y wlad dwch?

1 Sylw so far
Rho sylw

Joio, wir!! Mae’n braf yng Ngoed y Brenin, dwi heb bod ar gefn beic acw ers 1998!!

Beth sydd angen yw gwaith i gadw’r Gymry adref ac i denu rhai yn ol.

Sylw gan gz




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: