Heddiw oedd y tro cynta i mi weithio yn yr ardd. Dod hyd i fenyg oedd y dasg gynta (mae’n rhaid i mi gael trefn yn y sied na, mae o’n ôl yn fler ac orlawn fel y sied wreiddiol) ond wedi dod o hyd i bâr o rai ‘heavy duty’, mi fues i’n brysur yn tynnu a thorri y deiliach sydd wedi hen farw. Mae fy wheely bin brown bellach yn orlawn ac yn pwyso tunnell, mae fy min compost plastig yn gwegian ac mae’r pentwr o lanast ( sydd i fod yn domen gompost o ryw fath) yn gorlifo hefyd – a dim ond chwarter yr ardd wnes i.
Mi fues i hefyd yn trio hel algae allan o’r pwll. Ydi, er gwaetha’r ffaith iddo rewi’n gorn am o leia wythnos – falle pythefnos, dwi’m yn siwr – wnes i’m sbio – mae’r bali stwff gwyrdd afiach na’n dal yno. Dyma lun o Robin a fi’n sefyll ynghanol y pwll i brofi ei fod o wedi rhewi’n solat:
Ro’n i wedi gwirio ( checkio) ei fod o’n ddiogel yn gynta wrth gwrs. Mi fysa Robin wedi torri ei galon tasen ni wedi disgyn drwodd a gwlychu’r camera gafodd o gan Siôn Corn. Mae o wedi bod fel Japanî bach ( dydi hynna ddim yn hiliol nacdi?) o gwmpas y lle yn tynnu pawb a phopeth.
Ond ia, y blydi algae na – ydw, dwi’n rhegi – felna dwi’n teimlo! Mi wnes i drio rhoi’r parseli bychain o wellt barlys ( barley straw) ynddo fo llynedd a’r flwyddyn cynt ond yn ofer. Beryg mod i angen anferth o big bêl neu rywbeth. Hefyd, mae’r dwr wedi stopio lllifo drwy’r beipen o fy hen danc dwr. Es i i sbio be oedd, ac roedd y bali peth yn llawn llaid… fues i wrthi’n ei wagio ( un hanner) fel bod y beipen yn glir ond doedd na’m byd ond dod drwodd wedyn. Unrhyw syniadau? Mae’r beipen yn llawer rhy hir i wthio bechingalw – peips tenau sy’n slotio i’w gilydd i fyny’r bali peth. Methu cofio be ydi’r enw ond mae na rai yn y sied – yn rhywle. Dwi’n meddwl.
Anrhegion Nadolig rois i fy Nain a Mam oedd pethau bwydo adar sy’n glynu i’r ffenest. Rhai sgwar o’r RSPB oedd rheiny, ond un posh, del sydd gen i:
Mae’r adar yn tyrru ato fo, ond mae’n boen trio cael yr hadau i mewn am fod y slot mor fach. Taswn i’n prynu un arall, mynd am yr un sgwar o’r RSPB fyddwn i – lot haws. Ond ddim mor steilish…
Mae Mam wrth ei bodd efo’i un hi ( llwythi o adar yn Nolgamedd ynghanol y coed) ond dydi adar Dolgellau ddim wedi darganfod un Nain eto. Dwi am drio hongian ‘fat ball’ oddi ar ei lein ddillad hi pan ai yno wythnos nesa i’w denu. Am fod Nain yn 95 a methu symud o’r ty yn aml, mae’n treulio oriau meithion yn ei chadair wrth y ffenest ac ro’n i’n meddwl y byddai hi wrth ei bodd yn gwylio ambell ditw tomos yn agos, agos. Ond mae titws Dolgellau yn dwp – hyd yma!
O, ac yn sgil ymateb i’r blog dwytha, dwi am drio tagio am y tro cynta – dim clem os dwi’n ei neud o’n iawn, ond yn rhoi cynnig arni…
1 Sylw so far
Gadael sylw
Wedi tagio’n iawn!
Sylw gan gz Ionawr 9, 2011 @ 5:07 pmMae’r bocs bwydo ar y ffenest yn del! Hwyrach mai achos prinder adar yn Nolgellau ydy’r cathod lleol?
Mae ‘na lawer o adar wrth ein rhandiroedd ni. Maent yn cefni ar nant weddol fawr, a choed yr ochr draw.