BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Rhaglen Dolig
Rhagfyr 14, 2010, 12:53 pm
Filed under: Heb Gategori

Mi fydd rhaglen Nadolig Byw yn yr Ardd yn cael ei darlledu nos Lun yr 20fed am 20:25 ac yna ail ddarllediad 23:12:10 @13:55 a 29:12:10 @1500.  Hon fydd yr un efo Dilwyn y Draenog ynddi. A’r uchelwydd, ac mi fydd Russell a Sioned yn gwneud rhywbeth Nadoligaidd ond dwi’m yn cofio be! Ond mi fyddwn ni’n tri efo’n gilydd mewn cartref hen bobl ym Methesda, efo llwyth o blant bach yn canu’n ddel a llwyth o bobl h^yn yn sbio’n hurt arnon ni…

Sut mae’ch trefniadau Dolig chi ta? Mae’r adeiladwyr wedi gorffen gwneud fy ‘wetroom’ o’r diwedd felly mi gai lanhau’n iawn toc, er mwyn gosod fy addurniadau. Ond dwi angen enw Cymraeg ar gyfer wet room rwan. Nes i holi ar Facebook a chael llwyth o gynigion da fel ‘sblashdy’, ‘leithdy’ ‘dyfrdy’ ‘gwlychdy’ ayyb. Dwi’m yn siwr pa un sydd orau. Gwerthfawrogi unrhyw farn neu gynigion pellach!

Dwi’n dal i fwydo fy nghacen Dolig efo Tia Maria a Brandy bob hyn a hyn – ogla bendigedig arni. Ac mae fy mins peis yn prysur ddiflannu ( dyna sy’n digwydd efo llond ty o blymars, trydanwyr ayyb…) ond mae’r anrhegion Nadolig yn fy nrysu. Dwi newydd brynu voucher ‘Go Ape’ i nhad sy’n ei 70au… dach chi’n meddwl eith o? Cwrs rhaffau uchel yng Nghoed y Brenin ydi ‘Go ape’, llwyth o zip wires ac ati. Duwcs, fydd o’n iawn yn bydd? Mae o’n dal reit ffit a chry… ond erbyn cofio, dwi’m yn siwr sut un ydi o am uchder. Hm.

O ia, a cofiwch am ‘Carolau Gobaith’ heno a nos Sadwrn. Sbiwch smart ydw i ar ôl oriau dan law dynes golur a gwallt broffesiynol… O na fyddai byjet Byw yn yr Ardd yn gallu cynnwys y fath berson! Ond yn sgil yr hinsawdd economaidd bresennol, dwi’m yn gweld hynna’n digwydd rhywsut. O wel…

Nadolig Llawen os na fydda i wedi blogio cyn hynny. A gobeithio na fydd ein gerddi’n diodde gormod yn yr holl rew ac eira o’r Arctig ynde. A chofiwch brynu digon o fwyd i’r adar!


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: