BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Yn yr eira
Rhagfyr 5, 2010, 2:12 pm
Filed under: Heb Gategori

Dyna brofi bod y ‘loft insulation’ yn gweithio. Mi gliriodd y paneli haul yn o handi wedyn! Dwi wrth fy modd efo’r eira, rhaid i mi ddeud – gan mod i’n byw ar ochr y ffordd fawr, does gen i fawr o broblemau teithio. Ond dwi’m wedi gyrru i weld fy rhieni yn Nolgamedd ers sbel – mae na allt yn fanno sydd fel rhaeadr o rew. Beryg bywyd – felly cerdded sy raid i fanno.

Mae Del wrth ei bodd efo’r eira hefyd, yn rhowlio a griddfan ynddo fo bob cyfle gaiff hi. Dwi’n cymryd mai griddfan efo pleser mae hi?

Mae na blanhigion wedi diodde wrth gwrs – do’n i’m digon trefnus i roi pob dim yn y sied mewn pryd. O wel.

A dwi’n bwydo’r adar yn gyson a dyma i chi un ymwelydd dyddiol:

Tydi’r bol coch na’n wych? Hyd yn oed heb zoom lens gwych, mae hwn yn lun golew drwy’r ffenest tydi? Mae o’n rhy ofnus i mi fedru cymryd llun heb ffenest rhyngom ni.

Dwi newydd brynu teclyn bwydo adar sy’n glynu i’r ffenest hefyd ond heb gymryd lluniau eto. Roedd gen i un arall flynyddoedd yn ôl ond mi gafodd ei falu’n rhacs gan wiwer… y jaden.

 

 

Mae’r ty yn altro gen i hefyd – ‘wet room’ – stafell wlyb? wleb? bron a’i gorffen lawr staer:

Mae ‘na sinc a thy bach yna hefyd – a chwpwrdd i gadw papur ty bach rhag gwlychu! A llechi ydi’r silffoedd i gadw sebon a siampw – syniad ges i ar ôl bod yn Uganda. Mae teils llechi dipyn drytach na theils gwyn cyffredin – ond mae llechi gymaint deliach ac os gneud rwbath, ei neud yn iawn ynde… a rwan, gan mai toilet lawr staer ydi hwn,  mi ddylai fod yn haws cadw’r ty’n lân pan fydd y criw camera’n dod acw i ffilmio ar ddiwrnod gwlyb, mwdlyd!

Jest disgwyl am y plymar i osod y tapiau a phen y gawod rwan… ew, edrych ymlaen, sgynnoch chi’m syniad!

 


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: