BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Ysgol Rhydypennau
Gorffennaf 15, 2010, 3:02 pm
Filed under: Heb Gategori

Dwi’n meddwl mai un o’r dyddiau ffilmio i mi ei fwynhau fwya oedd y diwrnod efo plant a garddwyr Rhydypennau, ger Aberystwyth! Am griw annwyl, clen a bywiog. Ac roedd y criw bach yma wedi cyfansoddi cân am ‘Byw yn yr Ardd’, cofiwch! Dwi’n croesi mysedd y cewch chi eu clywed nhw’n canu ( a dawnsio) ar y rhaglen cyn bo hir.

Ond y rheswm roedden ni yno oedd am fod ganddyn nhw ardd. Chwip o ardd – sbiwch ar y blodfresych yma!

A deud y gwir, mae ganddyn nhw gae chwarae enfawr, a choed i ddringo ynddyn nhw hefyd, rhywbeth sy’n brin iawn mewn ysgolion bychain cefn gwlad sydd â dim ond sgwaryn o darmac i chwarae arno fel arfer, ond stori arall ydi honno…

Beth bynnag, mae plant Rhydypennau’n lwcus iawn. Maen nhw’n lwcus o Helen, yr athrawes sy’n mynd â nhw i’r ardd, ac o Tudor, y garddwr go iawn, sy’n helpu gyda’r ardd er fod ei deulu ei hun wedi hen adael. Fo ydi’r dyn tal ar y dde yn y llun yma:

Mae o’n arddwr profiadol iawn sy’n ennill mewn sioeau yn aml, a ges i fynd i weld ei ardd o adre hefyd. Mi fyddai angen llwythi o luniau i ddangos y cwbl, ond dyma i chi un rhan ohoni:

Roedd o’n gwrthod deud be oedd ei gyfrinach o, ond paratoi’r pridd yn ofalus a thrylwyr cyn plannu dim oedd y prif beth. Ac mae o’n dod o linach hir o arddwyr, felly mae o yn y gwaed.

O ia, dynion pwysig oedd y ddau mewn jyrsis piws. Y Llewod neu’r Rotari, dwi’m yn cofio pa un rwan. Llewod dwi bron yn siwr, sy’n noddi’r garddwyr gorau bob blwyddyn ac yn rhoi medalau iddyn nhw. Mi fydd na lun swyddogol yn y Cambrian News toc! Ac roedd y plant mor falch o’r medalau. Y criw fydd yn dod i arddio amser chwarae ydi’r rhain, nid dim ond am fod ‘Miss’ yn deud. Ac wedi cael blas arni’n yr ysgol, mae’r rhan fwya wedi cael eu rhieni i ddechrau garddio hefyd!

Y cynnwrf mawr wrth adael, oedd casglu’r llysiau oedd yn barod fel bod merched y gegin yn gallu paratoi pryd o fwyd o’r ardd iddyn nhw drannoeth. Ac oedd, fel arfer, roedd y plant oedd yn deud nad oedden nhw’n hoffi ffa/pys/blodfresych yn edrych ymlaen yn arw at fwyta’r rhain. Dylai bod gardd ym mhob ysgol yng Nghymru!


1 Sylw so far
Gadael sylw

Gwych ydi brwdfrydedd plant.
Biti na fydde ni wedi cael gwneud pethe fel hyn pan oedden ni’n yr Ysgol, nol yn oes yr arth a’r blaidd.
Dwi dal i gofio plannu coeden hyd heddiw. Yr unig beth gwyrdd wnaethon ni erioed am wn i!
Lle da ‘di Rhydypenne. Mol i’n “rymblian” wrth feddwl am y lle!
Coffi a lasagne’r caffi ar fy mren!

Sylw gan Pysgodyn_Piws




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: