BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Oes yr haearn a chelf amgylcheddol
Mehefin 18, 2010, 9:22 pm
Filed under: Heb Gategori

Ia, fy ngwyneb i ydi hwnna. Dyna ddigwyddodd i mi pan es i draw i Benfro wythnos dwytha. Pethe peryg ydi’r criw Wes-wes ‘na. Ond wyddoch chi be? Dwi’n eitha licio fo. Cuddio lot o bechodau! Yng Nghastell Henllys o’n i, hen bentre o Oes yr haearn, lle mae’r Parc Cenedlaethol wedi bod yn brysur yn eil greu yr hen dai crwn –  a gardd berlysiau. Mae’n wirioneddol ddifyr yno, ac mae’r rheolwr, Rhonwen Owen, i’w chanmol am wneud cystal job o’r lle. A’r paentio! Ia, hi nath y gwaith artistig, a dyma hi yn ei gwisg Oes Haearn.

Diolch Rhonwen – nes i fwynhau’n arw, ac mae’r lafant gwyn brynais i yn y siop yn tyfu’n dda.

Y diwrnod blaenorol, ro’n i adre yn Ffrwd y Gwyllt, yn cael blas o gelf amgylcheddol. be di hwnnw meddech chi? Wel, gneud celf efo’r hyn sydd o’n cwmpas chi, tu allan. Dydi o’m fel arfer yn gelf sy’n para ac ro’n i’n gweld hynny’n od. Gweithio’n galed ar rywbeth dim ond i’w weld o’n malu, marw neu wywo. Ond dyna ydi cymaint o arddio ynde!

Dyma Rowenna Williams, a’i mab Derwyn, y ddau o’r Bala, dim ond i fyny’r ffordd, ond doedden ni rioed wedi cyfarfod o’r blaen.

Roedden nhw wedi dod a bamboo efo nhw ac, wedi cael rhyw syniad o sut berson ydw i, wedi cael syniad golew o sut siap fyddai’r ‘cerflun’ yn ei gymryd. Siap fel hyn:

Rhyw fath o don, i dawelu fy mywyd hectig i!

Gewch chi weld gweddill y broses pan fydd yr eitem yn cael ei darlledu, ond ew, mi wnes i fwynhau. Roedd o fel bod yn blentyn eto, yn gneud den a’i addurno efo fy hoff bethau i, fel cerrig a chregyn ac ati. Ond yn yr achos yma, rhyw greiriau oedd o gwmpas yr ardd oedden nhw. Yr hen ferfa ( oedd wedi malu ers talwm) a rhyw ddarnau o lestri dwi wedi eu darganfod wrth balu yma. Mi wnaethon ni redeg allan o amser yn y diwedd, ond dyma Rowenna a Derwyn o flaen y canlyniad:

A dyma fo eto fymryn yn agosach. Dwi’n gwybod na fydd o at ddant pawb – ond dwi licio fo!


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: