BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Bodnant, Dyffryn a Llangaffo
Mehefin 5, 2010, 2:30 pm
Filed under: Heb Gategori

Mi fydd nifer ohonoch chi’n nabod yr olygfa yma; ia, o’r bont yng ngwaelodion Gardd Bodnant ( dydach chi’m i fod i’w galw yn ‘Erddi’ Bodnant bellach). Mi fuon ni’n ffilmio yno’n ddiweddar, ynghanol cantamil o ymwelwyr eraill. Mae’r ardd ar ei gorau ar hyn o bryd, yr azaleas yn danbaid fel y gwelwch chi, a’r goeden fflamgoch hon yn anhygoel:

Dwi’m yn cofio ei henw hi rwan, rwbath efo Chile yn yr enw, ac mae’n edrych hyd yn oed yn fwy trawiadol am fod na rododendrons ac azaleas oren, coch a phinc o’i chwmpas. Dwi ddim eto wedi gallu meistroli’r grefft o blannu pethau sy’n ‘mynd’ efo’i gilydd. Mae angen amser ac amynedd i wneud hynny, a does gen i fawr o’r ddau. Ond dwi awydd prynu mwy o azaleas lliwgar rwan – pan gai gyfle! Ond seren Bodnant ar hyn o bryd ydi’r tresi aur – y laburnum. Dyma un llun ohono i chi – pan doedd y lle ddim yn berwi efo pobl:

Mae o’n fendigedig tydi? Ac ro’n i yno efo rhywun sydd wedi tyfu ei dresi aur ei hun – yn Llangaffo o bob man. Elfed Williams ydi’r garddwr; mi fu Sioned yn ei ardd o llynedd, ac mi fues inna ym Modnant efo fo i weld lliwiau’r hydref llynedd – ond welwch chi mo’r eitem honno tro ma mae arna i ofn. Ta waeth, es inna draw i weld ei dresi aur o, sydd dipyn llai na Bodnant, ond dim ond 10 oed ydi’r bwa yma chwarae teg, ac mae un Bodnant yno ers yr 1880!

Mi welwch chi fwa Elfed ar y rhaglen toc, ond yn y cyfamser, dyma flas ohoni i chi: Ac Elfed ydi’r dyn balch oddi tani.

Y diwrnod wedyn, ro’n i yng nghyffiniau Caerdydd (ddeudis i mod i’n brysur yndo) yng Ngerddi Dyffryn. Yn anffodus, doedd y tywydd ddim cystal, ond mi wnes i fwynhau fy hun yn arw efo Carys Whelan, a dyma hi wrth y wisteria:

Mae gerddi Dyffryn yn wahanol iawn i Bodnant – llawer mwy o le i blant grwydro, a sbiwch – maen nhw’n caniatau cwn! Ar dennyn. Yn bersonol, mi fyswn i’n mynd i weld llawer iawn mwy o erddi cyhoeddus tasen nhw’n rhannu’r un weledigaeth â Dyffryn. Marciau llawn i Dyffryn am ganiatau cwn! Ac am adael i chi fwyta eich picnics eich hun ar y lawnt os dach chi isio. Dyw Bodnant ddim yn caniatau hynny … Mi gewch chi weld cryn dipyn o erddi Dyffryn yn y rhaglen ( dim clem pryd fydd hynny sori) ond dyma i chi flas bach i aros pryd:

A choeden Jiwdas ydi honna meddai Carys. Enw anffodus, ond coeden ddel iawn!


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: