BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Clychau’r Gog
Mai 30, 2010, 12:27 pm
Filed under: Heb Gategori

Mi fuon nhw’n ddigon hir yn dangos eu hunain eleni ond maen nhw yma o’r diwedd. Llond caeau a choedwigoedd o glychau’r gog. Neu Bwtias y Gog, Croeso’r Haf, Cennin y Brain, neu nifer o enwau lleol eraill. Ond be bynnag rydach chi’n eu galw nhw, hyfryd ydyn nhw ynde? Er bod rhai dwi’n eu nabod yn casau eu gweld am eu bod yn eu cysylltu â marwolaeth. Efallai mai cyd-ddigwyddiad ydi o, ond o mhrofiad i, mae’n sicr yn wir bod yr adeg yma o’r flwyddyn yn aml yn drist tu hwnt. Meddyliwch am y peth … ydach chi’n cofio gweld carped o las wrth fynd am dro wedi clywed am farwolaeth sydyn un o’ch cyfoedion? Mmm …

Ond digon o’r felan, maen nhw’n flodau hyfryd, ac wythnos dwytha, mi fues i’n ddigon lwcus i dreulio pnawn hyfryd yn eu canol nhw. A hynny yng nghwmni Almaenes sy’n eu ffarmio yn Llanberis!

Dyma fi yn eistedd uwch ben Llanberis efo Vera Thoss, sydd wedi byw yma ers 15 mlynedd, a’i chyfaill Rebecca Huck, sy’n byw ym Môn ond yn gallu siarad am y blodau yn Gymraeg! Daeth y ddwy i nabod ei gilydd drwy’r Brifysgol ym Mangor, lle mae Vera yn ddarlithydd cemeg. Ac fel mae’n digwydd, hi ydi’r unig berson yng Nghymru sydd â thrwydded i werthu clychau’r gog gwyllt. Mae’n anghyfreithlon i godi a gwerthu’r blodau yma fel arfer ( wps, mi fues i’n gwerthu llond gwlad ohonyn nhw wrth ochr y ffordd yn y Brithdir pan o’n i’n hogan fach!) ond mae’n iawn os oes gynnoch chi drwydded fel Vera.

Wyddoch chi eu bod nhw’n wenwynig? Na finna, ond mae Vera a’i myfyrwyr yn gwneud profion arnyn nhw am ei bod hi’n bosib bod rhywbeth ynddyn nhw all drin afiechydon fel canser, y diciau a chlefyd y swgr rhyw ddydd.

Roedd y tywydd yn hyfryd, y golygfeydd yn wych, ac mi ges i fwynhad garw yn eu cwmni nhw, yn enwedig pan gyrhaeddodd merch Rebecca a f’atgoffa mod i newydd roi gweithdy sgwennu iddi yn Ysgol Llanfairpwll! Ac ew, criw da o blant oedd rheiny. A hi gymrodd y llun uchod, chwarae teg iddi. Mae gan Vera ferch fach hynod fywiog hefyd, sy’n amlwg yn ferch yr awyr agored fel ei mam, er mai dim ond 14 mis oed ydi hi.

Roedd y ty a’r blodau mewn llecyn bendigedig yn Clegir, sydd i fyny ffordd fynyddig a chul o Lanberis. Mi wnes i sylwi ar hen furddun o dan y cae blodau, ac mi ddywedodd Vera bod bardd yn arfer byw yno. Ap Glaslyn, a ges i wybodaeth amdano ganddi. Tipyn o gymeriad! John Owen oedd ei enw iawn o, a chafodd ei eni ym Meddgelert yn 1857. Roedd o’n gerddor ( bariton arbennig mae’n debyg), llenor , a gweinidog. Bu’n ddisgybl-athro, ac yna’n gweithio yn chwareli Ffestiniog a Llanberis.  A thra’n byw yn ‘Foty’, y ty sydd bellach ynghanol y blodau glesion, daeth yn enwog fel adroddwr, actor a datganwr o fri. Wedi hynny bu’n areithiwr dylanwadol ar lwyfan dirwest ac yn ystod Diwygiad 1904-5 ac wedi hynny bu’n efengylydd.

Yn 1926 roedd ei wyres, Olwen, oedd wedi byw efo fo ar hyd ei hoes, yn 18 a dyma gerdd fach sgwennodd o iddi:-

“Daeth Ebrill gyda’i flodau tlws

A’r adar ganant wrth fy nrws;

A minau’n hynach nag erioed

Tra Olwen bach, yn ddeunaw oed.”

Rhyfedd ei fod o’n sôn am glychau’r gog ynde! A dyma gerdd sgwennodd o yn Saesneg:

“When I was born in the month of May,

The cuckoo called that very day,

For all the birds to come and see

A little babe born in a tree.

Come all ye birds, come now and see,

That very babe is sixty three”.

Na, doedd o’m yn fardd mawr hyd y gwela i, ond yn swnio’n foi difyr tu hwnt. Tydi o’n rhyfedd be dach chi’n ei ddysgu wrth sbio ar flodau …


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: