Filed under: 1
Dwi wedi bod isio plygu’r gwrych rhwng y ty a’r ffordd fawr erioed. Ond wedi bod yma ers deg mlynedd, do’n i’m wedi gneud dim am y peth a jest gadael i’r coed dyfu nes eu bod nhw’n llawer rhy uchel. Ond ddoe, daeth tro ar fyd. Daeth Richard Dwy Olwyn draw efo’i li gadwyn … Er mwyn plannu coed bach newydd hawdd eu plygu, mae’n rhaid gwneud lle. Felly hacio a chwalu amdani …
Bore ddoe, fel hyn roedd hi’n edrych o’r ochr arall o’r ffordd:
Ond erbyn y pnawn, roedd gyrrwyr ceir rhwng Bala a Dolgellau yn cael braw … sbiwch gwahaniaeth!
Roedd o’n dipyn o sioc, rhaid cyfadde. Ond rwan, fe ddylai fy ngardd fwynhau’r holl oleuni newydd, a’r lawnt yn diodde llai o fwsog efallai. A beryg y bydd yr ochr yna o’r ty yn gynhesach! Ar yr ochr negyddol wrth gwrs = llai o breifatrwydd – dwi’n teimlo’n noeth! Mae pawb yn gallu ngweld i rwan – a gweld pob dim dwi’n ei hongian i sychu ar y lein ddillad!
Mae na dipyn o waith clirio canghennau i’w wneud heddiw. Dwi’n cadw cryn dipyn fel coed tân wrth gwrs. Eith y llwch lli ddim yn ofer chwaith.
A sbiwch – o graffu’n ofalus ar dalcen y ty mae’n bosib gweld RW a AM (Vaughan – nhw gododd y ty) a’r dyddiad 18/37 bob ochr i’r ffenest.
Iawn, dydi o’m yn glir – ond maen nhw yno, wir yr! Roedd Dafydd y gwr camera yn meddwl y dylwn i eu paentio i wneud iddyn nhw sefyll allan ond dwi’m yn siwr.
A nefi wen, dwi newydd gael gwybod mod i wedi cael caniatad i roi paneli haul ar y to (i gynhesu dwr) – roedd y Parc wedi gwrthod ddwywaith ond daeth boi i fyny o’r Cynulliad wedi i mi roi apêl i mewn. Doedd o’m yn gweld pam na ddylwn i eu cael nhw wir (dydi’r ty ddim wedi ei gofrestru) – “… ac mae na wrych mawr yn cuddio’r ty beth bynnag”. Wps. Ond dim ond ddoe ges i wybod ei fod o wedi deud hynna!
Ond dwi’n licio paneli haul, dydyn nhw ddim yn bethau parhaol beth bynnag a dwi’n gneud lles i’r amgylchedd! Yn enwedig pan fydda i wedi plannu’r 85 o goed bychain ges i gan fy mrawd … pan gai gyfle wrth gwrs …
Gadael Sylw so far
Gadael sylw