BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Profi’r pridd
Chwefror 12, 2010, 9:16 pm
Filed under: 1

O’r diwedd, dwi wedi bod yn profi’r pridd sydd gen i yn Ffrwd y Gwyllt. Mi brynais i ‘kit’ bychan am £2.99 a mynd ati ddoe. Y cam cynta oedd rhoi pridd hyd at y llinell cynta yn y tiwb fel uchod. Pridd o’r patsh llysiau ar waelod yr ardd oedd hwn, sef pridd naturiol yr ardd, efo chydig o dail gwartheg ers llynedd neu’r flwyddyn cynt (dwi’m yn cofio’n iawn) a pha bynnag wrtaith arall dwi wedi bod yn ei ychwanegu dros amser. Ond mae na datws, nionod (sal iawn), bitrwt a chennin (tenau tu hwnt) wedi bod yn tyfu yno ers hynny. Naddo, dwi’m wedi rhoi llawer o sylw i’r patshyn yma felly dwi’n gwybod bod y pridd  angen help.

Y cam nesa oedd ychwanegu’r powdr gwyn: Aeth y rhan fwya i mewn i’r tiwb! Wedyn, ychwanegu dwr (o’r ffrwd yn fy achos i) hyd at y 4edd linell: Yna, rhoi’r caead ymlaen ac ysgwyd y cynnwys yn dda.

Wedyn, ei adael i setlo ( es i i ateb fy ebyst) a gweld pa liw oedd yr hylif yn y diwedd. Dyma liw fy mhatsh pridd sydd ddim wedi cael llawer o sylw:

Tua 5.5 ddeudwn i – cytuno? Iawn ar gyfer tyfu tomatos (hah! Rhy oer mêt!), moron a thatws. Ac ydyn, mae fy nhatws yn iawn yna. Ond dwi’m wedi trio moron yno ers tro. Yn amlwg, mi ddylwn i. Ond wedi deud hynny, mae moron yn hapus mewn pridd rhwng 5.5 a 7.00.

Iawn, y gwely dyrchafedig nesa, sy’n llawn pob math o gompost a phridd a thywod a bob math o nialwch. Mae’r cennin wedi bod dipyn hapusach yno, fy moron yn weddol, fy mitrwt llawer iawn mwy nag yn y patsh arall, ond roedd y sbrowts yn chwerthinllyd. Iawn, mi es drwy’r un broses eto a dyma’r canlyniad:

Niwtral felly, 7.0. Da i ddim ar gyfer tatws, ond yn well ar gyfer ffa (do, mi ges i rai da yno llynedd), nionod ac ati. Felly dwi am symud fy nionod i’r gwely yna i weld os gai well lwc eleni. Dwi mor falch mod i wedi gneud y prawf yma o’r diwedd! Os nad ydach chi wedi trafferthu eto – dowch laen – mi fydd o werth o – am £2.99!


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: