BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Wedi rhewi
Chwefror 1, 2010, 7:50 pm
Filed under: 1

Ia, llanast. Dwi’m yn siwr be oedd enw’r planhigyn yma, ond math o glust eliffant oedd o. Dyna enw fy mam ar blanhigion felna beth bynnag. Ac yn y ty mae o wedi bod erioed, nid tu allan. Mi ddigwyddodd hyn yn ystod y cyfnod oer ‘na ryw bythefnos yn ôl. Roedd o ar sil ffenest y porch – mae’r ffenest yn wydr dwbl ac mae na wres i fod dan y llechi. Dyma’r ffenest i chi, ac am ryw reswm dydi’r staenaiu coch ar y silff llechen ddim i’w gweld. Ond credwch chi fi, mae’n edrych fel tase’r planhigyn ma wedi gwaedu dros bob man:

Drws nesa i fy sgwarnog. Falle y dylwn i fod wedi cynnau’r gannwyll. O wel, Rhy hwyr rwan.

Mae o’n edrych yn gelain, ond dwi’m isio ei daflu o; roedd o’n chwip o blanhigyn smart, ga drapia! Dail gwyrdd a choch hyfryd iawn. Tybed ddaw o’n ôl yn fyw os wnai jest gadael llonydd iddo fo tan y gwanwyn? Neu a ddylwn i wneud rhywbeth iddo fo? Mae’n siwr bod y gwraidd yn iawn tydi? Os na chlywa i’n wahanol gan unrhyw un, ei adael ar y silff wna i –  a gweddio.

Dydi’r holboellia coriecia ddim wedi marw eto ond dydi o’m yn edrych yn hapus iawn. Gai lun o hwnnw i chi eto. Ac mae’r sbrowts yn dal fel marblis – llai na marblis!

Ond dwi’n dal i fwynhau’r eira. Gawson ni gawod drom nos Sadwrn fan hyn, a dyma be fu Robin a finna’n ei wneud ar ôl cinio dydd Sul. Pengwin eira yn lle dyn eira. Ac mae o’n ddigon o sioe tydi? Ond mae’n siwr ei fod o wedi toddi erbyn heddiw. Neu wedi colli ei bîg o leia. Vocab/geirfa: llanast – a mess; planhigyn – plant; edrych yn gelain- looks dead; gadael llonydd iddo fo-leave it be; y gwanwyn – spring.

Y pengwin eira


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: