BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Gerddi Bodnant
Tachwedd 22, 2009, 10:25 pm
Filed under: 1

Wel, go brin bod na lawer o goed fel hyn â dail ar ôl wedi’r gwynt a glaw mwya ofnadwy ma. Ro’n i’n gyrru lawr i Abertawe nos Fercher gyda llaw – lwcus bod gen i gampafan (uchel) bellach ac nid golff – neu fyswn i byth wedi cyrraedd drwy’r holl ddwr na!

Beth bynnag, un o’r golygfeydd hyfryd yng Ngerddi Bodnant oedd y goeden yma. Mi fuon ni’n ffilmio darn hydrefol yno ar gyfer cyfres flwyddyn nesa (oes, mae na un arall – 20 rhaglen!) rhyw bythefnos yn ôl. Er mawr gywilydd i mi, fum i rioed yno o’r blaen. Wel, os oes gen i bnawn rhydd, tueddu i fynd am dro efo’r ci fydda i, a does na fawr o’r gerddi ma yn caniatau cwn nagoes? Dwi’n dallt pam wrth reswm, ond eto … os ydi ci yn bihafio, a’r perchennog yn cario bag baw, dwi’m yn gweld pam lai. Ond dyna fo.

Dyma’r plasdy ei hun: Lle crand iawn. Ond dydan ni’m yn cael gweld tu mewn. Chwarae teg, mae isio mynedd gadael i’r cyhoedd drampio drwy eich gardd chi heb sôn am fusnesa yn y ty, does.

Elfed Williams o Langaffo oedd yno efo fi. Mi fuodd Sioned yn gwneud eitem efo fo yn ei gartref dros yr haf – mae ganddo fo ardd anhygoel ac mae o’n wybodus tu hwnt am bob mathau o goed a phlanhigion. Mae o hyd yn oed wedi creu laburnum arch ( neu fwa tresi aur) fel un Bodnant yn ei ardd o.  A do, dwi wedi cael côt newydd – wedi penderfynu bod pinc yn edrych yn llawer gwell na’r bali peth brown na pan dwi’n mynd rownd gerddi!

Mi gawson ni dipyn o hwyl yn crwydro Bodnant er gwaetha’r glaw a’r ffaith bod y gwynt wedi chwythu cryn dipyn o’r dail i bob man a’r aflwydd pethe hwfro dail yn gneud swn mwya diawchedig ar hyd y lle. Be sydd o’i le efo cribin dwch? Ond roedd na olygfeydd hyfryd yno er hynny.

Os na fuoch chi yno erioed, ewch yno ar bob cyfri, a’ch camera efo chi. Mae’n fendigedig, ac yn hawdd dod o hyd iddo, rhwng Llanrwst a Llandudno. Mi fysa’n well fyth tasen nhw’n caniatau cwn wrth gwrs…

O, a sôn am gamera, dwi’m yn siwr faint o luniau welwch chi ar y blog ma am sbel. Mae f’un i wedi cael cnoc ac angen ei drwsio. Dyna be dwi’n ei gael am ei gadw yn fy mhoced.


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: