BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Fy nghoed hydrefol newydd
Tachwedd 1, 2009, 1:45 pm
Filed under: 1

Naci, nid fy nghoed i ydi’r rheina. Dwi newydd weld yr eitem ffilmwyd ym Mhlas Newydd ar lan y Fenai, a lluniau gymrais i y diwrnod hwnnw ydi’r rhain. Eitem gafodd ei ffilmio hydref dwytha oedd honna a deud y gwir (handi ydi meddwl ymlaen llaw fel’na achos ro’n i i ffwrdd yn Nigeria tro ma do’n?). Awen Haf oedd efo fi – dyma hi:

Hogan sy’n gwybod bob dim am arddio. Falle eich bod chi’n nabod ei gwyneb hi, achos mae hi’n gweithio yng nghanolfan arddio Frongoch, wrth ymyl Caernarfon. Rhywle na fum i yno erioed o’r blaen – ond mi ai eto (Mi ddywedais i hynna llynedd a dwi byth wedi bod! wps … ond dwi’n hogan brysur tydw). Beth bynnag, mi brynais i ddwy goeden yndo, a’u plannu yng ngwaelod yr ardd – hydref dwytha. A dwi wedi darganfod be oedden nhw:

Do’n i ddim yn hollol siwr pa Enkianthus brynais i’n y diwedd, roedd na 2 label arno fo.

Felly roedd o unai yn:

Enkianthus Perulatus – “blodau gwynion yn y gwanwyn.” Ond dwi’m yn cofio gweld rhai.
Neu Enkianthus campanulatus – “dail hyfryd yn yr hydref a blodau hufen a choch fis Mai.” Dwi’m yn cofio gweld rheiny chwaith.
Cotinus Grace ‘smoke bush’ oedd y goeden arall – “dail mawr cochbiws yn yr haf sy’n troi’n fflamgoch yn yr hydref. Blodau sy’n edrych fel ‘fiery smoke’ ym mis Gorffennaf.”
Ond fel y dywedais i yn y blog dwytha, mae’r dogwood wedi lladd un ohonyn nhw.
Mi wnai dynnu llun ohonyn nhw yn y blog nesa i chi gael gweld sut siap sydd arnyn nhw … ond di’m yn dda yna.

Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: