BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Yr Hydref
Hydref 27, 2009, 2:54 pm
Filed under: 1

P9210002 Lwcus i mi gymryd y llun yma pan wnes i, achos erbyn y diwrnod wedyn, roedd y dail i gyd wedi cael eu chwythu i ebargofiant! Ond mae’n chwip o acer tydi? Mae gen i awydd cael mwy o gwmpas yr ardd er mwyn cael gwledd o liw fel yna yn yr hydref. Neu wneud babis ohoni. Dwi wedi trio ‘layerio’ ambell gangen. Mae’n rhy gynnar eto i weld os ydyn nhw wedi gweithio, ond os oes gan rywun dips am sut i wneud babi ‘acers’, mi fyswn i’n falch iawn o gael gwybod.

Mi wnes i blannu dwy goeden (methu cofio’r enwau rwan, ond dwi’n siwr i mi flogio am y peth ar y pryd) ym mhen draw’r ardd hydref llynedd yn y gobaith o gael mwy o liw. Ond mae un ohonyn nhw wedi marw ers yr haf am fod coed eraill wedi ei chuddio heb i mi ddallt a chafodd hi’m golau haul, y greadures. Y bali dogwood na oedd y bai mwyaf. Mae hwnnw wedi tyfu i bob man a rwan dwi isio ei dynnu allan. Ond mi fydd hynny’n dipyn o brosiect mae arna i ofn. Clwy y garddwr ynde – plannu gormod.

O, ac mi ges i’r teclyn yma gan Russell llynedd:

P9230004 Rhyw ddarn o ‘wire netting’ efo gwellt ynddo fo. Rhywbeth i ddenu pryfetach buddiol oedd i i fod, ond hyd y gwela i, rhywbeth i ddenu llygod ac adar ydi o. Mae na Ditw Mawr wedi bod yn fy neffro i’n blygeiniol bob bore am ei fod yn cnocio’r ffenest efo’i big – yn goblyn o uchel! Dwi wedi bod yn ei wylio wedyn, a dwyn ambell ddarn o wellt mae o, wedyn rhoi lab i’r ffenest. Fel tase fo’n meddwl ei fod o’n dwyn o nyth rhyw ditw arall ac yn dangos ei hun!

Mi rois i’r peth ar sil y ffenest am ei fod o’n cael ei hambygio gan lygod ar y llawr – roedd y diawliad yn llusgo’r gwellt i’r tyllau yng ngwaelod y ty i wneud eu nythod Dwi’n meddwl mai ffling geith o rwan, onibai fod ganddoch chi syniadau gwell?


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: