BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Adre’n ôl
Hydref 21, 2009, 10:09 am
Filed under: 1

P9160603 Smart tydw?! Dyma un o’r gwisgoedd ges i’n anrheg gan bobl Nigeria. Cyn-ddisgybl brynodd hwn i mi, chwarae teg iddo fo. Mi yrrodd deiliwr draw i’r pentre i fesur y 5 o’r criw ffilmio, a threfnu gwisg i bawb! Ac mi nath fy nharo … rydan ni’n mynd i drafferth mawr i wneud ein gerddi yn lefydd lliwgar tydan? Wel, tyfu bwyd mae pobl Nigeria – dydyn nhw’m yn trafferthu llawer efo blodau. Ond mae eu gwisgoedd nhw yn llawn lliw a phatrymau, sy’n tynnu’r llygaid go iawn a gwneud i chi wenu a theimlo’n hapus. Does na’m rhyfedd ein bod ni i gyd mor depressed yn y wlad yma yn mynnu gwisgo du, llwyd, brown a nefi blw!

Ro’n i jest isio rhannu hynna efo chi.

A sbiwch sut maen nhw’n gwneud eu tai yn lliwgar …P9150574

Do, ges i amser anhygoel yn Gbara, y trip gorau erioed. Ac mae bod adre yn dipyn o sioc i’r system. Dwi’n colli’r swn, y chwerthin, y croeso, y plantain … a does gen i jest ddim mynedd ar hyn o bryd. Dim mynedd llnau’r ty a dim mynedd cael trefn ar yr ardd. Mi fyddai wedi setlo eto erbyn wsnos nesa mae’n siwr. Ac mi ai i hel fy ffa a’r moron rhyw ben. Ond ddim rwan.

Un llun arall i godi gwên – Mei Williams, y dyn camera a’r cyfarwyddwr gymrodd hwn, a dwi wedi gwirioni efo fo. Mynd i’w fframio a’i roi ar y wal. Mwynhewch!CNV00057


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: