BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


jams a chytnis
Medi 27, 2009, 11:46 am
Filed under: 1

Un bach arall cyn mynd gan y bydd hi’n dawel yma am 3 wythnos rwan …

P1010018Dyma be fu’r criw a fi’n ei wneud ddydd Gwener … gwneud jam eirin damson a chytni neu gatwad betys (bitrwt) efo Dilys Morgan o ffarm Alltgoch, Talybont, Aberystwyth. A mwynhau blasu hefyd! Hi ydi brenhines y jams a chytnis, mae’n gwneud miloedd ohonyn nhw bob blwyddyn. Ac maen nhw mor dda, roedd Barry (Archie) wedi gwirioni….

P1010019 A deud y gwir ynde, mi wnaethon ni gyd brynu llwyth o jams a chytnis i fynd adre efo ni. Steve y dyn camera aeth fwy hurt (neu galla mae’n siwr) mi brynodd o gwerth £25! Ond mi wnan nhw anrhegion Dolig bach neis yn gwnan? Pob jar yn £2.50 ac yn werth pob ceiniog. Ond os dach chi am eu gwneud nhw eich hun, mi fydd y risetiau ar wefan Byw yn yr Ardd cyn bo hir. Es i a jar o chytni ‘cidni bêns’ efo fi i noson poker nos Wener ac roedd pawb yn glafoerio ar ôl ei flasu o. Cracker bach tenau efo chydig o brie neu cheddar cry – a’r picyl … nefoedd! Colli’r poker wnes i gyd llaw …

Welai chi ar ôl Hydref 17! O ia, llun o gwn bach Alltgoch cyn mynd … del tydyn?

P1010017


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: