BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Cyn mynd i Nigeria …
Medi 23, 2009, 9:11 pm
Filed under: 1

Nodyn sydyn cyn i mi ddiflannu i wlad boeth. Dwi’n cychwyn ddydd Llun ac yn pacio fel het (mae’r stwff personol yn iawn, fwy neu lai, y stwff dwi’n mynd fel anrhegion i blant pentre bach tlawd Gbara sy’n drafferthus – mae gen i ormod ohono fo …).hogyn desg2Dyma i chi un o’r hogia y byddwn i wrth fy modd yn cael ei weld eto – ond mi fydd o 25 mlynedd yn hyn rwan! Ta waeth, gewch chi hanes trip Nigeria ar S4C tua’r Dolig ma, blog garddio ydi hwn i fod – neu gai row mae’n siwr!

Un o’r dyddiau ffilmio wnes i eu mwynhau fwya eleni oedd y daith i Sain Ffagan; mae na stryd yno sy’n difyr ofnadwy i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes garddio – ac i unrhyw un sydd heb affliw o ddiddordeb hefyd o ran hynny. Stryd Rhydycar, lle mae’r tai bach teras i gyd wedi eu dodrefnu yn ôl cyfnodau gwahanol yn ei hanes ni fel Cymry, o 1805 i 1985, P1010043ac mae’r gerddi yn dangos ffasiwn y cyfnodau hynny hefyd. Ew, difyr cofiwch! Ro’n i yng nghwmni John Davies (Bwlchllan), felly roedd o’n ei wneud o hyd yn oed yn fwy difyr wrth reswm. Mae o’n gwmni da bob amser.

Doedd na’m ty bach yn yr ardd tan 1895 gyda llaw, jest mynd i ardal benodol yn y gwyllt fydden nhw cyn hynny. A dyna pryd y dechreuwyd tyfu riwbob ar gyfer ei fwyta hefyd; cyn hynny, dim ond ar gyfer rhesymau meddyginiaethol y byddai’n cael ei dyfu.

P1010039

Ac yn 1955 roedd na lawer o flodau coch, gwyn a glas i’w gweld yng ngerddi’r Cymru. Roedden ni gyd isio bod yn Brydeinwyr mae’n debyg, ac yn plannu ein blodau i ddathlu’r coroni.

A damia – nes i stopio yn fanna i neud swper – a dwi newydd weld yr eitem yma ar y rhaglen heno! O wel, os na welsoch chi’r eitem, wele flas ohoni. A dyma lun gymrais i yng nghefn un o’r tai – y canlyniad reit ddifyr tydi? P1010045

A dim jôcs am jwgs os gwelwch yn dda …

Welai chi ar ôl Hydref 17!


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: