BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Wayne Cooksey
Medi 18, 2009, 4:27 pm
Filed under: 1

Eitem y byddwch chi’n ei gweld ar y rhaglen yn fuan ydi’r un am Wayne Cooksey o Benydarren, Merthyr. Dyma fo yn ei randir:

P1010049 Roedd o’n arfer gweithio fel peiriannydd amaethyddol, ond aeth o’n sal efo ME. Mae o’n eitha siwr mai’r holl gemegolion/gemegion (pa bynnag un sy’n gywir) oedd yn gyfrifol am hynny. Pesticides ac ati, y stwff dipio aflwydd na sydd wedi effeithio ar gymaint o ffermwyr (ond bod y Llywodraeth yn gwadu hynny ond stori arall ydi honno …). Mi fu’n gaeth i’w wely am flwyddyn os nad dwy, ond mi sylweddolodd os oedd o’n peidio bwyta unrhyw fwyd oedd wedi ei brosesu, roedd o’n gwella. Felly, gan ei fod o rwan yn tyfu a bwyta ei fwyd organig ei hun, mae o’n llawer iawn gwell. Diddorol ynde?

A thra roedd o’n gaeth i’w wely, roedd o isio rhywbeth i gadw ei ben yn brysur – felly mi benderfynodd ddysgu Cymraeg – a llwyddo!

Ydi, mae o’n gymeriad. A deud y gwir, dwi’n edrych ymlaen i weld os fydd be ddeudodd o i neud i fi biffian chwerthin ar gamera yn cael ei gynnwys yn y rhaglen … Doedd o’m byd drwg, ond mi allai rhai feddwl bod fy ymateb i braidd yn wirion. Gawn ni weld be oedd barn y cynhyrchwyr/S4C!

O,  a ges i datws a blodfresych hyfryd ganddo fo i fynd adre efo fi. Roedden nhw’n flasus iawn, Wayne, diolch!

A dyma i chi’r drws ‘ The Secret Garden’ -aidd sy’n arwain o gefn ei dy i’r rhandir. Hyfryd tydi? A’r criw ffilmio sy’n sbwylio’r olygfa drwyddo fo, sori …

P1010047


1 Sylw so far
Gadael sylw

[…] Wayne Cooksey « BLOG GARDDIO BETHAN GWANASSep 18, 2009 … Eitem y byddwch chi’n ei gweld ar y rhaglen yn fuan ydi’r un am Wayne Cooksey o Benydarren, Merthyr. Dyma fo yn ei randir: P1010049 … […]

Hysbysiad Cyfeirio gan Wayne cooksey | Mygeneticherit




Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: