BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Y wal orffenedig
Medi 13, 2009, 1:33 pm
Filed under: 1

P1010001 Dyna i chi be ydi wal! Wedi gwneud joban daclus tydyn, chwarae teg? Ydw, dwi’n falch iawn o’r dynion yn fy nheulu. Er, dwi’n deud hynna cyn i mi weld a chlywed be fuon nhw’n ei ddeud amdana i ar gamera y diwrnod o’r blaen. Nid ar gyfer Byw yn yr Ardd, ond rhaglen arall (tair a deud y gwir) fydd yn cael eu darlledu ryw dro ar ôl y Dolig. Dwi’n mynd yn ôl i Nigeria ar ôl 25 mlynedd dach chi’n gweld. Fues i’n dysgu Saesneg yno efo VSO. Ac rydan ni wedi bod yn ffilmio fy mywyd i fel mae o heddiw (heb drafferthu i ffilmio’r ardd – dach chi wedi gweld digon o honno bellach, siawns!), holi teulu a ffrindiau sut berson ydw i ac ati. Do’n i ddim yn cael bod yn bresennol wrth gwrs … ond mi gai wybod be ddywedwyd yn y diwedd!

Felly dwi’n falch iawn bod yr haul allan, i mi gael cofio sut beth ydi o a dod i arfer efo gwres cyn mentro i un o’r gwledydd mwya clos (humid) yn y byd. Handi iawn i dorri’r lawnt hefyd wrth gwrs. A tydi o’n deimlad rhyfedd gorfod dyfrio’r planhigion eto? Mae fy llysiau i rêl bois rwan ac mae’r ffa yn wirioneddol flasus. Byth wedi gneud dim byd call efo’r bitrwt chwaith. A dwi’n gobeithio y cai sbrowts, er fod y lindys wedi eu troi nhw braidd yn debyg i gonffeti. Mi fydd raid i mi brynu netting tro nesa.

O, a gesiwch be, dwi’n byw yma ers 9 mlynedd rwan a dyma’r tro cynta i mi sylwi bod gen i goed eirin a damsons! Weles i run ffrwythyn arnyn nhw o’r blaen. Mae ‘na domen eleni!

Reit, gorfod cychwyn am Abertawe rwan. Gas gen i yrru mewn haul braf fel hyn ond wedi noson yn Wa Bala neithiwr, does gen i mo’r egni i feddwl cerdded i fyny mynydd …


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: