BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Walio eto
Medi 8, 2009, 10:46 am
Filed under: 1

Mae ‘na wastad rhywbeth yndoes? Echnos, es i am dro rownd yr ardd a gweld hyn yn y berllan:

P1010045 Wal arall wedi disgyn! A slaff o wal hefyd, ga drapia. A sbiwch lwcus oedd fy nghoed ffrwythau druan, a hwythau wedi bod yn tyfu cystal –

P1010046 Sori, mae’r llun yna wedi gwrthod troi am ryw reswm – bydd raid i chi droi eich pen mae arna i ofn. Ond mi allwch chi weld mai cael a chael oedd hi – mater o filimedrau! Wel, nes i ffonio fy nhad i ofyn pwy oedd i fod i dalu am drwsio’r wal … fi neu berchennog y cae yr ochr arall neu oedden ni’n gallu rhannu’r gost. “Os mai wedi disgyn ar dy ochor di mae hi, (ia …) ti sy’n gyfrifol amdani. Ond sy’m rhaid i ti dalu neb siwr, ddaw Geraint a fi i’w thrwsio hi.”

Ieee! Felly bore ma, fel ro’n i’n cychwyn am dro ar y beic efo Del, cyrhaeddodd fy nhad, a thoc wedyn, fy mrawd, a dyma nhw wrthi’n ei hail godi. Y garreg fawr na oedd y drwg, roedd hi wedi llithro a throi am ryw reswm – y gwlybaniaeth mae’n debyg:

P1010048 Dwi wrthi’n gwneud cinio iddyn nhw rwan. Chwarae teg, dyna’r lleia fedra i ei neud – a mae hi’n glawio. Mi gawn nhw fod y rhai cynta (ar wahân i fi) i flasu fy llysiau ffres, hyfryd i. Ac os fydd Dad yn deud nad ydi o’n hoffi ffa, geith o fynd i ganu! Ond maen nhw’n gwneud joban reit dda tydyn? Dim ond gobeithio na fydd y sioc wedi effeithio ar fy Victoria Plwmsen i ynde …

P1010052


Rhowch sylw so far
Rho sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: