Filed under: 1
Drapia, wnes i anghofio cymryd llun o’r ardd ddoe a hithau’n edrych yn wych yn yr heulwen wedi i mi fod yn torri’r gwair. AAA! A dwi newydd gofio bod y peiriant torri gwair yn dal tu allan a hithau’n tresio bwrw! O diar …
Ta waeth, mi fu’r criw ffilmio yma ddoe felly gewch chi weld yr ardd yn ei gogoniant ar y teledu toc. Roedden nhw’n synnu, rhaid cyfadde, gan fod pob dim wedi tyfu’n anhygoel ers iddyn nhw fod yma ddwytha. Wel, y rhan fwya o bethe. Gewch chi weld sut siap sydd ar yr holboellia coriecea ( ddim yn siwr os ydw i wedi sillafu hwnna’n iawn) ges i o Crug ar y rhaglen.
A be dwi fwya balch ohono fo? Wel fy mocs llysiau – yr un fu’n gymaint o boen i’w roi at ei gilydd a’i lenwi. Dyma fo ylwch:
Meip, letus, betys, radish, dill a rocet yn gwneud yn dda. Pys a ffa a moron yn gorfod brwydro yn erbyn yr adar, braidd. Sbrowts sydd o dan y tair potel blastig yn y canol a dwi wedi hau mwy o foron a rocet yn y darn gwag na. Mae na fwy o bys mewn toilet rolls yn barod i’w plannu toc hefyd. Dwi’m isio bob dim yn barod yr un pryd nacdw?
Ac mae na flas ( a graen) da ar fy radish … Gawson ni flas ohonyn nhw amser cinio – hyfryd iawn.
Rhywbeth arall fuon ni’n ei ffilmio oedd y pwll llyffantod. Wedi’r sbelan boeth na, mi wnes i sylwi bod y pwll wedi troi’n wyrdd a bod y penbyliaid (sawl un yn llyffant bach bellach!) yn cael trafferth symud. Llysnafedd afiach, tew oedd wedi dod o rhywle a chrogi pob dim. Mi wnes i ddechrau ei hel oddi yno cyn penderfynu gadael y gweddill er mwyn i’r camera gael ei weld. A dyma fo:
Do’n i ddim yn gallu gweld y cregyn na cyn dechrau tynnu’r stwff gyda llaw. Dwi’n falch o ddeud ei fod o’n edrych yn llawer gwell bellach a bod y penbyliaid yn gallu rasio ar hyd a lled y pwll eto. A hynny heb roi cemegolion ynddo fo. Mae na ateb ‘gwyrdd’ i broblem pwll gwyrdd. Ond beryg mai’r ffaith nad ydi o’n hanner ddigon dwfn yn y lle cynta sy’n rhannol gyfrifol!
Iawn, well i mi fynd i achub fy mheiriant torri gwair cyn iddo fo foddi.
2 o Sylwadau so far
Gadael sylw
Wedi cael yr un broblem – odd raid i mi daflu allan hanner y dwr a’i ail-lenwi. Mae o dipyn yn well rwan ond yn dal braidd yn wyrdd. Dwi’n meddwl mai’r gwres sy’n rhannol gyfrifol – dio’m ynh wyrdd yn y gaea!
Sylw gan Gwyneth O'Gaora Mehefin 19, 2009 @ 1:25 amWel, mae’n debyg bod sach fechan o wellt barlys yn gwneud y tric. Mi fydd yn cymryd 28 diwrnod i weithio yn ôl y pecyn, felly gawn ni weld!
Sylw gan bethangwanas Mehefin 19, 2009 @ 9:41 am