Filed under: 1
Nabod fan’ma? Sbiwch ar y lliw glaswyrdd ‘na ar y ffenestri … Ia, Portmeirion. Mi fuon ni’n ffilmio yno wythnos yma, a chael diwrnod braf o heulwen ac awyr las, diolch byth. Yn anffodus, mi fydda i’n cofio’r diwrnod am reswm braidd yn hurt. Ro’n i wedi bod yn merlota y diwrnod cynt – o gwmpas ardal Machynlleth, er mwyn dod i nabod ceffyl y bydda i’n ei ferlota efo Shan Cothi a’i chriw fis Awst. Roedd popeth yn mynd yn dda – mor dda, pan ofynodd Ceri, perchennog y ceffyl os o’n i awydd dal i fynd (am wyth milltir i gyd), ‘dim problem’ medda fi. Ro’n i fymryn yn stiff yn dod oddi ar y ceffyl wedyn, ond roedd hynny i’w ddisgwyl – do’n i’m wedi bod ar gefn ceffyl ers oes. Y diwrnod wedyn nath o nharo fi ynde … pan oedd Rhian Mair y cyfarwyddwr yn gofyn i mi wneud shots cerdded. Roedd y diawlied yn chwerthin – a finne mewn poen! Ches i rioed goesau cowboi fel yna o’r blaen. Ro’n i wir yn dal i deimlo’r hanner cobyn rhwng fy nghluniau. Aw.
Diolch byth nad oedd angen i mi gerdded llawer, gan mai yno i fwyta o’n i mewn gwirionedd. A dyma fi’n edrych yn llawer hapusach ar fy eistedd: Be ro’n ei fwyta? Wel, cig oen Cymreig – a llysiau gafodd eu tyfu ym Mhortmeirion ei hun – yn cynnwys rhywbeth difyr ofnadwy efo blodyn courgette! Bydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld be’n union oedden nhw’n ei neud efo’r blodyn, ond dyma i chi olwg mwy manwl ar y blat o mlaen i:
Ond cofiwch, os ydach chi am ddefnyddio eich blodau courgette chithau – tynnwch y canol allan yn gynta. Dim ond y petalau ddylech chi eu defnyddio.
Roedd Arwel y garddwr a Wayne a Steve y cogyddion yn falch iawn o’u prosiect newydd – sef defnyddio eu llysiau eu hunain. Felly os am bryd o fwyd organig, iach, lleol – Portmeirion amdani!
Ac ydw, dwi’n gallu cerdded yn weddol erbyn hyn, diolch yn fawr …
3 o Sylwadau so far
Gadael sylw
Hoffem gael resait y llenwad y blodau courgettes os gwelwch yn dda.
Sylw gan Gwyneth Jones Mehefin 25, 2009 @ 8:32 pmDwi’m yn hollol siwr be roddodd Wayne ynddo fo – cig oen wedi ei dorri’n fân fân efo nionod a rhywbeth. Garlleg? Roedd y saws efo rosmari (a rhywbeth) yn hyfryd efo fo. Dim llawer o flas ar y blodyn ei hun, eitha delicet. A phwynt pwysig – rhaid gwagu’r blodyn yn llwyr cyn ei goginio – tynnu’r petha sy’n ei waelod!
Sylw gan bethangwanas Mehefin 25, 2009 @ 11:06 pmDiolch yn fawr
Sylw gan Gwyneth Jones Gorffennaf 5, 2009 @ 9:51 pm