BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS


Bwa Buck
Mehefin 7, 2009, 12:57 pm
Filed under: 1

Ro’n i wedi anghofio bod y gyfres yn ôl  ar yr awyr, felly ar S4C Clic welais i’r rhaglen wythnos yma. Mae na ailddarllediad heno (nos Sul) wrth gwrs, ond cofiwch rwan – bob nos Iau am 8.25!

Dwi’n edrych ymlaen at weld rhaglen wythnos nesa am fod ‘na eitem ges i hwyl garw yn ei gwneud arni. Dwi’m wedi gweld yr eitem am mod i’n gwneud fy nhrosleisio yn “ddall” y dyddie yma – sef i mewn i ryw feicroffon digidol yn ty a’i yrru at y criw cynhyrchu dros y we. Dwi jest yn deud be maen nhw’n deud wrthai i’w ddeud – maen nhw wedi arfer efo fy amseru i bellach. Mae hyn yn llawer mwy gwyrdd na gyrru’r holl ffordd i Felinheli ac yn ôl am joban deg munud!

Be ydi’r eitem ta? Wel, am mod i isio rhywbeth fel pergola ar gyfer y planhigyn dringo (holboellia coriacea) ges i yn Fferm Crug, mi wnes i benderfynu y byswn i’n gallu gwneud un allan o’r hen ddarnau sbar o bren oedd gen i o gwmpas y lle. Ond dwl o’n i de – peth mawr ydi pergola. Bwa o’n i’n ei feddwl. Dyyh. Wel, mi gawson ni Geraint “Buck” Jones i ddod draw i fy helpu i, gan mai saer coed ydi o – sy’n byw jest i fyny’r ffordd. Mae Del yn ffrindie mawr efo Mot, ei labrador du o. P1010083 Dyma lle ro’n i am i’r bwa fod, un goes yn y twll yma, a’r llall ar y lefel ucha, ac mi wnes i glirio tipyn o blanhigion cyn i’r criw gyrraedd – sbario iddyn nhw gael eu sathru’n slwtsh ynde.

Mae Buck yn gês a hanner, felly mi fuo ‘na gryn chwerthin yn ystod y mesur, llifio a morthwylio. A dyma ni’n sefyll o dan y bwa gorffenedig.P1010088 Yndi, mae o’n fawr, ond os fydd y planhigyn ma’n tyfu fel mae o i fod i neud, mi fydd na flodau a deiliach yn hongian i lawr, ac mi fydd angen digon o le i gerdded oddi tano fo yn bydd? A sut mae o’n tyfu? Wel …yn uffernol o araf a bod yn onest! Ond dwi wedi plannu rhyw fath o glematis (methu cofio ei enw) yr ochr arall, jest rhag ofn ac mae hwnnw’n dod reit dda. Amynedd sy pia hi rwan.


Gadael Sylw so far
Gadael sylw



Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s



%d bloggers like this: