Filed under: 1
Dwi’n ôl ar ôl wythnos o grwydro de Cymru yn y campafan efo Del, ac am wythnos i’w dewis ynde! Es i draw i ardal Aberhonddu i ddechre, aros efo ffrind yn Nhrefeca a mynd i weld cwpwl o bethe yng Ngwyl y Gelli Gandryll. Sesiwn stand-yp Dylan Moran oedd y peth gorau o ddigon, ond roedd Jo Brand yn ail agos. A drychwch be oedd yng ngardd fy ffrind Cêt yn Nhrefeca!
Ia, Byw yn yr Ardd oedd yr ysbrydoliaeth iddi! Neis gweld ein bod ni’n ysbrydoli chydig o bawb. Ac yn ystod fy nghrwydro, mi wnes i gyfarfod cryn dipyn oedd yn deud eu bod yn mwynhau ac wedi mynd ati i blannu eu hunain yn sgil ein gwylio; pobl nad oedd wedi meddwl garddio cyn hynny. Wel ia, os ydw i’n gallu garddio, mi fedar unrhyw un!
Gyda llaw, dwi’n gwybod bod pob man yn edrych yn ffantastic yn y tywydd yma, ond wir rwan, mae crwydro Cymru fel wnes i wedi agor fy llygaid go iawn i’r hyn sydd ganddon ni yng Ngwalia. Mi fu Del a finne yn beicio ar hyd camlas Aberhonddu, a chael modd i fyw – mae’n hyfryd! A braf oedd gallu sbecian i mewn i erddi pobl o ochr y gamlas hefyd. Es i mlaen o fanno wedyn (via camlesi y Goetre a Glyn- nedd) i Dresaith, a chysgu am dair noson uwch ben y traeth. Wel … nefoedd a deud y lleia:
Do, mi gafodd Del a finna amser bendigedig – am nesa peth i ddim o bres, ac yn llawer mwy ‘gwyrdd’ na taswn i wedi hedfan dros y môr i rywle poeth – ond roedd hi mor boeth yn Nhresaith, dwi wedi cael lliw haul neis iawn! Yr unig broblem efo mynd i ffwrdd mewn tywydd braf ydi sut i ddyfrio’r ardd adre wrth gwrs. Wel, wrth lwc, mae gen i ffrind sy’n glen iawn ac mi fu hi’n dyfrio fy llysiau i gyda’r nos – diolch Luned! Mae na adar neu rywbeth wedi bwyta rhes gyfan o foron, ond ar wahân i hynny, mae popeth yn edrych reit lewyrchus, a’r blodau wedi ffrwydro o ran lliw a maint. Mae hi fel gardd drofannol acw! Oes, mae na waith chwynnu rwan – a thorri’r bali lawnt wrth gwrs … ond mae’r batris wedi cael bywyd newydd yn sgîl fy wythnos o ymlacio a dwi’n barod iawn i dorchi llewys.
Gadael Sylw so far
Gadael sylw