Filed under: 1
Wel, dyma sut mae o’n edrych rwan. Fues i’n brysur yn llwytho mwy o gerrig mawr ynddo fo er mwyn i’r penbyliaid gael lle i guddio, ond dwi angen gneud mwy i guddio’r rwber aflwydd na rownd yr ochrau. Mae’r planhigion i gyd wedi tyfu’n anhygoel o sydyn ac mae na bob math o bryfetach yno rwan. Ond y lili ddwr sy’n tynnu fy sylw i bob tro. Dim blodau eto, ond mae’r dail yn gosod eu stondin yn dda:
Y dail coch na ydyn nhw. Del tydyn? Mi fydda i wedi cynhyrfu’n rhacs pan ddaw’r blodau a does gen i ddim syniad pryd fydd rheiny yn ymddangos. Dim coesau ar y penbyliaid eto chwaith. Pawb yn edrych ymlaen!
Edrych ymlaen at Beti fory hefyd – os mai Russell sydd wrthi tro ma wrth gwrs. Amynedd pia hi …
O ia, cofiwch fynd i’ch mart lleol i chwilio am fargeinion i’r ardd – ges i ‘water butt’ am £8 a bin tyfu tatws am £4! Newydd eu plannu …
Gadael Sylw so far
Gadael sylw