Wedi'i ffeilio o dan: Heb Gategori | Tagiau: cameron diaz, celloedd brenhines, Ceri Redman, chanterelles, Dalen, dylunydd, hive tool, Mair, Mawddach, richard weston, sioe, Tri Chognac i Blodwen Jones
Dyma i chi lun o Ceri Redman, fy nith, sy’n gweithio fel dylunydd yng Nghaerdydd efo Richard Weston – sydd wedi gwerthu stwff i’r siopau mawrion fel Harvey Nicholls ac i sêr fel Cameron Diaz! Mi alwodd draw wythnos dwytha ( Ceri, nid Cameron) i gael lluniau o wahanol flodau ac ati yn fy ngardd i er mwyn gallu defnyddio’r delweddau a’r patrymau hynny yn ei gwaith. A dyma rai o’r lluniau gymerais i:




Efallai y cawn nhw eu defnyddio, efallai ddim, ond mi wnai adael i chi wybod os fydd modd cael rhywbeth o fy ngardd i ar ddilledyn neu bapur wal neu gyrtens neu rywbeth yn y dyfodol! Erbyn i Ceri orffen efo nhw, fyddwch chi ddim yn eu nabod o’r lluniau yma beth bynnag; mae modd gwneud y pethau rhyfedda efo lluniau fel hyn y dyddiau yma!
Y camera da ddefnyddiais i i gymryd rheina. Yn anffodus, dim ond fy iphone oedd gen i pan fu mrawd ac ambell nith a nai yn canwio ar yr afon Mawddach fore Gwener dwytha. Mi fyswn i wedi canwio hefyd ond ddim ond 4 canw sydd gynnon ni. Beicio ar hyd y llwybr efo Del wnes i, a cherdded dros y llaid a’r baw at y lan fan hyn – a sbiwch bendigedig oedd hi yno!
Pwy sydd angen mynd dramor a ninnau’n byw mewn man mor dlws? Wel … pan fydd yr haul yn tywynnu o leia. Roedd hi’n gymylog eto erbyn amser cinio.
Mae’r tridiau braf gawson ni wedi bod o help mawr i’r gwenyn – es i heibio nhw ddoe ac mae’r cwch wreiddiol yn gwneud mêl fel dwnimbe, felly beryg fydd gen i beth ar gyfer cystadlu yn Sioe Talybont wedi’r cwbl! Ond dwi’n dal i orfod bwydo’r cwch fechan – mae honno’n wan iawn o hyd. Pan aeth Carys a fi i weld yr haid flin, roedden nhw nid yn unig yn flin, ond yn gwneud celloedd brenhines fel dwnimbe. Rhoddwyd yr ‘hive tool’ yn rheiny i’w malu, a bydd raid cadw golwg arnyn nhw. Hen frenhines fach flin sydd ganddyn nhw, debyg, ac os gai un newydd, glen yn lle honno, efallai y bydd y cwch cyfan yn haws eu trin. Gawn ni weld.
A dyma i chi be ges i i frecwast y bore o’r blaen – madarch chanterelles.
Maen nhw’n gynnar eleni ( ges i’r pryd cynta ryw fis yn ôl o leia) ac mae’n frwydr i gael gafael ynddyn nhw cyn y malwod, ond maen nhw’n sicr yn werth y drafferth!
O ia, a sbiwch be brynais i’n y Steddfod – wrth fy modd!
Rhag ofn nad ydech chi’n deall, mae ‘Tri Chynnig i Blodwen Jones” yn un o fy nofelau i ar gyfer dysgwyr, ac mae Mair o gwmni Dalen wedi cael y syniad gwych o wneud mygiau sy’n parodio rhai o’r llyfrau ni yng Nghymru – a dwi mewn cwmni da, ylwch!
3 Sylw hyd yn hyn
Rhowch sylw
Dim byd o’i le â chamera’r iPhone – ac os yw’n unrhyw gysur i ti, dyna mae Aled fy ngŵr (ffotograffydd proffesiynol) yn ei ddefnyddio ar gyfer ‘snaps’ bob amser. Ac mae’r lluniau (ganddo ef a gen ti) yn ardderchog.
Hoff IAWN o’r mygiau doniol.
Bethan Mair x
Sylw gan Bethan Mair Awst 12, 2012 @ 12:04 pmHelo Bethan,
Sylw gan Mair Medi 5, 2012 @ 2:39 pmMor falch dy fod yn hoffi’r mygiau (diolch byth!). Mae dy lyfrau yn gwerthu’n dda yma.Byddaf yn cynnal stondin lyfrau yn y digwyddiad yng Nghasnewydd mis nesaf. Edrychaf ymlaen at dy weld (rydym wedi cwrdd unwaith pan oeddwn ar gwrs ysgrifennu yn Nhy Newydd). Mair (Dalen Newydd) x
Diolch am fy rhoi yn y fath gwmni llenyddol! Ia, siawns na chawn ni gwrdd eto mewn rhyw fan llyfryddol. Dal ati i gael syniadau difyr!
Sylw gan bethangwanas Medi 5, 2012 @ 3:32 pm